Rydym yn chwilio am bartner ymchwil stigma tlodi

Fel rhan o’n gwaith yn mynd i’r afael â stigma tlodi, rydym yn cyflwyno prosiect gyda’r nod o ganfod datrysiadau lleol i’r stigma tlodi yn Abertawe. Mae’r prosiect yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe (thîm Trechu tlodi), Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe a Chomisiynwyr Cymunedol Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe (‘Tîm Dylunio’r prosiect).

Nod y prosiect hwn yw helpu partneriaid yn Abertawe i:

1) Deall a dysgu o brofiadau bywyd o stigma tlodi yn Abertawe – o ble mae’n dod, sut mae’n ymddangos ym mywydau bob dydd pobl a’u profiadau o wasanaethau cyhoeddus, a sut mae’n effeithio ar bobl.

2) Deall rôl gwasanaethau cyhoeddus lleol – o ran cyfrannu at stigma tlodi a’i leihau, gan adeiladu hefyd ar unrhyw ymdrechion presennol sydd eisoes yn gweithio’n dda i fynd i’r afael â stigma tlodi yn Abertawe.

3) Dysgu o ymchwil ac arferion addawol mewn mannau eraill – i archwilio’r hyn y mae tystiolaeth yn ei ddweud am fynd i’r afael â stigma tlodi a sut y gellir cymhwyso’r gwersi hyn i bolisi ac ymarfer yn Abertawe.

4) Cyd-greu gweledigaeth a chynllun gweithredu lleol ar gyfer mynd i’r afael â stigma tlodi – i lywio Strategaeth Dlodi Cyngor Abertawe ac ymdrechion ehangach i fynd i’r afael â stigma tlodi yn Abertawe. Rydym yn chwilio am bartner ymchwil i gynnal ymchwil sylfaenol i gefnogi’r ddau amcan cyntaf. Bydd y partner ymchwil yn gweithio’n agos gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a’r Tîm Dylunio i helpu i siapio’r ymchwil.

We are looking for a research partner to conduct primary research to support the first two objectives. Rydym yn chwilio am bartner ymchwil i gynnal ymchwil sylfaenol i gefnogi’r ddau amcan cyntaf. Yn nes ymlaen yn y prosiect, efallai y byddwn yn penderfynu ymestyn y comisiwn i gynnwys cefnogaeth i amcanion 3 a 4.

Egwyddorion allweddol a’r hyn rydym yn chwilio amdano gan bartner ymchwil:

Ar ôl cyfres o drafodaethau gweithdy, mae Tîm Dylunio’r prosiect wedi cytuno bod yn rhaid i’r ymchwil a wneir gan ein partner ymchwil yn Abertawe wneud y canlynol:

  • Blaenoriaethu profiad bywyd o stigma tlodi, drwy gynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol ar bob cam mewn ffordd ystyrlon—nid dim ond er mwyn creu argraff.
  • Cael agwedd dosturiol a pheidio â stigmateiddio, gan sicrhau nad yw’r ymchwil yn atgyfnerthu stigma presennol nac yn gwneud i gyfranogwyr deimlo eu bod yn cael eu beirniadu.
  • Bod yn brofiad cadarnhaol i bawb, lle mae pawb yn cael budd o gymryd rhan.
  • Cynrychioli profiadau amrywiol o stigma tlodi, gan gynnwys y rhai sy’n wynebu stigma tlodi ochr yn ochr â stigma arall (fel pobl anabl a phobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd hiliol eraill).
  • Cael gwared ar rwystrau rhag cyfranogi fel bod yr ymchwil yn gynhwysol.
  • Rhoi cydnabyddiaeth am amser cyfranogwyr (i’r rhai nad yw eu hamser yn cael ei dalu gan gyflog presennol), gyda nifer o opsiynau ar gyfer sut y gellir gwneud hyn.
  • Defnyddio iaith syml a hygyrch, gan osgoi jargon academaidd. Cytunodd y Tîm Dylunio hefyd y dylai darpar bartneriaid ymchwil ddangos y canlynol:
  • Bod yn agored i wrando a dysgu gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol, gyda pharodrwydd i addasu eu dull gweithredu os oes angen.
  • Profiad o ymchwil gyfranogol/gyd-gynhyrchiol ac ymgysylltu â chymunedau.
  • Agwedd empathig ac anfeirniadol, yn enwedig tuag at y rhai sydd ar incwm isel.
  • Cynwysoldeb a’r gallu i gysylltu â chymunedau amrywiol.
  • Dealltwriaeth o’r cyd-destun lleol yn Abertawe neu’r gallu i ddatblygu hyn (does dim rhaid iddynt fod wedi’u lleoli yn Abertawe na Chymru)
  • Enw da am gynnal ymchwil sy’n arwain at newid gwirioneddol mewn polisi ac ymarfer.

I gael y briff ymchwil llawn, cysylltwch â info@wcpp.org.uk erbyn hydref 21. Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw dydd Llun 4 Tachwedd.