Partneriaeth newydd i fynd i’r afael â stigma tlodi yn Abertawe

Mae’n bleser cyhoeddi partneriaeth gyda Chyngor Abertawe ac aelodau Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe (SPTC), sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS), i wella dealltwriaeth o stigma tlodi a chefnogi ymdrechion gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael ag ef.

Mae’r bartneriaeth yn dilyn cydweithio agos rhwng CPCC a Chomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe (SPTC) wrth ddatblygu a darparu ein gweithdai diweddar i ddeall yn well pa mor gyffredin yw stigma tlodi yng Nghymru a’i effeithiau, a bydd yn dwyn ynghyd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, academyddion, ymarferwyr, grwpiau cymunedol a phobl sydd â phrofiad uniongyrchol o dlodi. Bydd hefyd yn helpu i lywio Strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe

Nod ein gwaith ar stigma tlodi hyd yma yw canfod sut y gallwn ni, ac eraill, gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yn y ffordd orau i fynd i’r afael â stigma tlodi yn fwy effeithiol. Rhan allweddol o’r bartneriaeth hon sy’n seiliedig ar le fydd cydweithio ag SPTC a Chyngor Abertawe i gyd-ddylunio ffyrdd o gydweithio a fydd yn sicrhau bod y prosiect o fudd i bob parti yn y maes pwysig hwn.

Dywedodd Uwch-gymrawd Ymchwil CPCC, Amanda Hill-Dixon, “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau â’n gwaith ar stigma tlodi gyda Chyngor Abertawe ac arbenigwyr lleol drwy brofiad ar y mater hwn.

“Gan adeiladu ar syniadau a ddaeth i’r amlwg yn ein gweithdai diweddar, ein nod yw cyd-ddylunio a chyd-gyflwyno prosiect i ddatblygu atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i stigma tlodi yn Abertawe.

“Byddwn yn dysgu o brofiadau byw o stigma tlodi yn lleol, yn cael cipolwg ar rôl gwasanaethau cyhoeddus lleol o ran cynhyrchu ac atal stigma tlodi, yn ogystal â chasglu ac adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda i fynd i’r afael â stigma tlodi yn yr ardal. “O’n rhan ni, gallwn helpu partneriaid lleol i ddeall yr hyn y mae tystiolaeth ymchwil yn ei ddweud am fynd i’r afael â stigma tlodi, dysgu o arferion addawol mewn mannau eraill a chyd-greu gweledigaeth a chynllun gweithredu lleol yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer mynd i’r afael â stigma tlodi.”

Dywedodd Alyson Anthony, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Lesiant: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac aelodau Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe. Drwy waith y Comisiwn a phrofiad uniongyrchol y comisiynwyr, mae gennym ddealltwriaeth gliriach bod y stigma sy’n gysylltiedig â thlodi yn broblem wirioneddol i’r rheini sy’n profi tlodi. Mae hwn yn gyfle i ni archwilio hyn ymhellach a gwreiddio arferion da yn ein gwaith i liniaru tlodi.”

Dywedodd Kay Lemon, cydlynydd Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe, “Nododd Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe, y cyntaf yng Nghymru, fod stigma’n fater sylfaenol y mae angen mynd i’r afael ag ef.  Mae’n creu cywilydd, yn ynysu ac yn effeithio ar iechyd meddwl, llesiant a mynediad at wasanaethau.  Mae gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion, rôl bwysig i’w chwarae o ran lliniaru’r naratifau hollbresennol sy’n peri rhwyg ac yn creu stigma.  Rydym wrth ein bodd y bydd rhai o’n comisiynwyr cymunedol lleol yn dod â’u harbenigedd i’r prosiect hwn.”

Darllenwch fwy am ein gwaith ar stigma tlodi a chlywed yn uniongyrchol gan ddau o Gomisiynwyr Gwirionedd Tlodi Abertawe, Melvyn Williams a Karen Berrell.

Rydyn ni hefyd yn lawnsio Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi. Dewch i’r sesiwn ddylunio.