Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi cael £9 miliwn dros y pum mlynedd nesaf i barhau â’i gwaith yn darparu tystiolaeth annibynnol awdurdodol i lunwyr polisi ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sy’n helpu i wella’r broses o lunio a chyflawni polisïau.
Cawn ein hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Wedi’i leoli ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn aelod o Ganolfan What Works yn y DU ac yn gweithio gydag arbenigwyr o bob cwr o’r byd i helpu i wella bywydau pobl yng Nghymru.
Dros y pum mlynedd, ddiwethaf, rydym wedi cyhoeddi mwy na 200 o adroddiadau a sesiynau briffio polisi ar heriau polisi allweddol, gan gynnwys adfer yn sgîl pandemig COVID-19, mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldebau, trosglwyddo i sero-net, cefnogi plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, a mynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd cymdeithasol.
Dywedodd yr Athro Steve Martin, ein Cyfarwyddwr: “Mae’r buddsoddiad newydd hwn yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn arwydd pwerus o’r gwerth y mae’r ESRC a Llywodraeth Cymru yn ei roi ar y gwaith a wnawn i sicrhau bod llunwyr polisi yn gallu defnyddio ymchwil ac arbenigedd blaengar.”