Esboniad ar gydweithio amlsectoraidd i wella llesiant cymunedol

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei chanfyddiadau o’i hymchwil arloesol, a gynhelir ar y cyd â Phartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar, a oedd yn seiliedig ar gydweithio amlsectoraidd i wella llesiant cymunedol.

Y gobaith yw y bydd yr adroddiadau, ynghyd â ‘Fframwaith Gweithredu’ ymarferol, yn cefnogi ac yn gwella’r dull cydweithio hanfodol rhwng gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau cymunedol yng Nghymru.

Mae Dr Hannah Durrant, Uwch-gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn esbonio cefndir y prosiect hwn, ei ganfyddiadau allweddol a nodweddion y Fframwaith Gweithredu.

 Y CEFNDIR

Yn ystod y pandemig, gwelwyd cynnydd mewn gweithredoedd a oedd yn cael eu gyrru gan gymunedau i gefnogi llesiant. Dechreuodd hyn yn aml drwy ddanfon bwyd neu bresgripsiynau i’r rhai a oedd yn gorfod aros gartref, ond datblygodd i fod yn ddull o feithrin a chynnal cyswllt cymdeithasol.

Roedd cymunedau wedi cymryd yr awenau i sicrhau llesiant pobl mewn ardaloedd. Fodd bynnag, roedd gwir deimlad mai’r berthynas a ddatblygodd rhwng y gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau cymunedol oedd wedi galluogi’r cynnydd mewn gweithredu cymunedol, ynghyd â ffordd wahanol o weithio a oedd, ar y gorau, yn dibynnu ar nodau a gytunwyd a pharch tuag at y naill a’r llall a’u hamrywiol gryfderau ac adnoddau.

Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, roedd grŵp o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a chymunedol â diddordeb mewn cymunedau dyfeisgar yng Nghymru eisiau gweithio gyda’r Ganolfan i ddysgu gan y goreuon ymhlith y partneriaethau aml-sector hyn.  Gyda’n gilydd, roeddem am ddeall sut beth yw dulliau cydweithio effeithiol, a dysgu beth sy’n sail iddynt. Pa bethau y mae dulliau cydweithio effeithiol yn eu gwneud er mwyn llwyddo a sut y gallech chi wneud i sicrhau bod dulliau cydweithio yn gweithio’n well yn eich ardaloedd chi – yn seiliedig ar yr hyn rydym yn ei ddysgu am y camau y mae pobl yn eu cymryd mewn ardaloedd eraill.

BETH WNAETHOM NI?

Ein nod oedd dysgu mwy mewn gwaith ymchwil ac ymarfer beth sy’n gwneud i gydweithrediadau weithio’n dda.

PRIF GANFYDDIADAU’r ymchwil hon oedd y CAMAU y dylech eu cymryd i ddatblygu nodweddion cydweithio da. Rydym i gyd yn gwybod bod angen pethau fel ymddiriedaeth, arweinyddiaeth gref ac ar y cyd, ac asedau da sy’n seiliedig ar le. Ond nid yw’r pethau hyn yn digwydd nac yn ymddangos dros nos, mae angen mynd at i’w datblygu a’u cynnal. Beth mae pobl yn ei wneud i alluogi ymddiriedaeth i fod yn nodwedd o’u dull cydweithio? Beth mae pobl sydd â dulliau cydweithio da yn ei wneud i ddatblygu, rhannu a defnyddio asedau’n dda? Ein nod oedd canfod beth wnaeth pobl i ddatblygu’r nodweddion hyn.

Gwelsom fod enghreifftiau o gydweithio da yn y gymuned yn digwydd mewn tri maes allweddol:

  • Maent yn gwneud pethau sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu nodau a dibenion cyffredin
  • Maent yn gwneud pethau sy’n eu galluogi i gydlynu ar draws gwasanaethau, rhannu cyfrifoldeb ar draws gwahanol bartneriaid, a chynnal y dull cydweithio mewn ffordd effeithiol
  • Maent yn gwneud pethau i ariannu gwaith ar y cyd drwy nifer o wahanol fecanweithiau ariannol sy’n cefnogi cydweithio, yn hytrach na’i rwystro.

Rydym wedi datblygu FFRAMWAITH GWEITHREDU sy’n darparu rhai opsiynau ar gyfer camau gweithredu ym mhob un o’r meysydd hyn y gallai eich dull cydweithio roi cynnig arnynt. Mae pob un yn rhoi syniad o’r adnoddau y gallai fod eu hangen ar gyfer y cam gweithredu hwnnw, yr amserlenni i feddwl amdanynt a’r aeddfedrwydd sydd ei angen i gydweithio er mwyn i’r camau gweithredu hyn weithio orau.

Y FFORDD GYMREIG

Mae Cymru’n elwa o gael fforymau traws-sector, fel y Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar sy’n cael ei chadeirio ar y cyd gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau a Chyngor Sir Penfro. Gyda 150 a mwy o aelodau o bob rhan o lywodraeth leol, y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector cymunedol, y byd academaidd a chyrff llunio polisïau cenedlaethol, mae’r Bartneriaeth yn gallu hyrwyddo a rhannu’r hyn a ddysgir o ran arferion da wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar y cyd yn y gymuned, gan chwarae rhan allweddol yn y gwaith o bontio polisïau ac arferion.  Dywedodd Chris Johnes, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau: “Mae’r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar wedi gwneud llawer iawn o waith i feithrin cyd-ddealltwriaeth ac ymdeimlad o’r hyn sy’n bosibl ymysg ei gyfranogwyr helaeth – ac mae cael ymchwil o safon yn sail i’w gwaith yn ei gwneud hi’n gryfach fyth.”

Mae’r gwaith y mae Partneriaeth Cymunedau Dyfeisgar a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi’i wneud gyda’i gilydd wedi cael ei gyd-ddylunio o’r dechrau, gan ddechrau drwy sefydlu’r nodau a’r gwerthoedd cyffredin sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant. Un o nodau allweddol ein dull cydweithredol oedd gwneud ymchwil yn fwy perthnasol i gyd-destunau ymarfer, ac roedd y dull hwn yn ein galluogi i gronni gwybodaeth ac arbenigedd a oedd wir yn canolbwyntio’r ymchwil ar yr hyn a fyddai’n fwyaf defnyddiol i ymarferwyr yng Nghymru.

Ychwanegodd Rhian Bennett, Uwch Reolwr Comisiynu, Cyngor Sir Penfro: “Mae natur yr ymchwil hon gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cofleidio’r ysbryd o gydweithio a phartneriaethau traws-sector sy’n hanfodol i Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar a’i aelodau. Drwy’r gwaith o’i ddylunio, ei weithredu a’i ledaenu, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi mabwysiadu dull cydgynhyrchiol o weithio ochr yn ochr â chydweithwyr mewn sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector cymunedol i ddatblygu ymchwil sy’n ychwanegu at y sylfaen wybodaeth bresennol ynghylch cydweithio amlsectoraidd, ond sydd hefyd yn cynnig canfyddiadau ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth y gall y gwahanol randdeiliaid eu rhoi ar waith i ddylanwadu ar newid a gwella canlyniadau llesiant cymunedau ledled Cymru.”