Cyhoeddi rhaglen waith Llywodraeth Cymru newydd

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi’r cam diweddaraf o’i rhaglen waith i Lywodraeth Cymru.

Dyma’r aseiniadau newydd:

  • Newid ymddygiad ac ailgylchu yn y cartref
  • Strategaethau a thechnolegau ar gyfer gwella ansawdd yr aer
  • Beth sy’n gweithio i gyd-fynd â dysgu ail ieithoedd?
  • Cynyddu cyfraniad dinesig prifysgolion ac addysg drydyddol ehangach
  • Opsiynau eraill yn lle erlyn dyledwyr sy’n agored i niwed
  • Beth sy’n digwydd wrth ymyrryd mewn sefydliadau iechyd sy’n tanberfformio?
  • Sut y gellir sicrhau bod polisïau a gomisiynir yn cael yr effaith fwyaf posibl?

Mae gwaith ar gyfer Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rhan fawr o waith y Ganolfan, ac mae’r haen ddiweddaraf yn cynrychioli’r ail raglen waith a gytunwyd â Phrif Weinidog Cymru ers i’r Ganolfan gael ei lansio y llynedd.

Dywedodd Dan Bristow, Cyfarwyddwr Polisi ac Arferion y Ganolfan:

“Rwy’n falch i fod yn estyn ein rhaglen ymchwil ar gyfer Llywodraeth Cymru gyda’r set ddiweddaraf hon o brosiectau, fydd yn sicrhau bod gan Weinidogion fynediad at y dystiolaeth a’r arbenigedd gorau sydd ar gael er mwyn llywio eu penderfyniadau.

“Mae llawer o’r prosiectau hyn yn elfennau canolog o drafodaethau cenedlaethol pwysig, a gall y dystiolaeth a gynhyrchir gennym lywio penderfyniadau a allai gael effaith enfawr ar ein cymdeithas a lles unigolion.

“Drwy lenwi’r bwlch rhwng ymchwil ac arferion, mae ein gwaith eisoes wedi cael effaith bellgyrhaeddol ar bolisïau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn gobeithio ychwanegu at hyn drwy’r set newydd hon o brosiectau.”