Llongyfarchiadau Laura!

Mae’r Athro Laura McAllister wedi cymryd yr awenau fel Cadeirydd Grŵp Cynghori Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) a Dr June Milligan yn is-gadeirydd.

Mae Laura yn Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae hi wedi bod yn aelod o Grŵp Cynghori WCPP ers 2017.  Ochr yn ochr â’i gyrfa academaidd, mae wedi cyflawni nifer o rolau cyhoeddus, yn fwyaf diweddar yn cyd-gadeirio’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mae hi’n sylwebydd amlwg ar ddatganoli, llywodraethu, polisi cyhoeddus a phêl-droed yng Nghymru. Mae Laura yn gyn-gapten Cymru, a chafodd ei phenodi’n is-lywydd UEFA yn ddiweddar. Mae hi hefyd yn llysgennad dros faterion cydraddoldeb a chynrychiolaeth o ran rhywedd.

Mae Dr June Milligan wedi gweithio mewn rolau gwasanaeth cyhoeddus drwy gydol ei gyrfa, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Leol a Chymunedau i Lywodraeth Cymru, Comisiynydd a Chadeirydd Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, cynghorydd polisi i’r gweinidogion, ac ymddiriedolwr Sefydliad Young.

Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro WCPP, yr Athro James Downe, “Mae’r Athro McAllister yn adnabod y Ganolfan yn dda gan ei bod wedi ymwneud â hi dros flynyddoedd lawer. Hi oedd yr ymgeisydd perffaith i ymgymryd â’r rôl hon wrth ystyried ei gwybodaeth fanwl a’i phrofiad o lunio polisïau yng Nghymru. Bydd Dr June Milligan yn ei chefnogi fel is-gadeirydd, ac mae ganddi hithau hanes rhagorol o wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt.”

Cadeiriodd yr Athro McAllister ei chyfarfod cyntaf o Grŵp Cynghori WCPP y mis diwethaf a dywedodd, “Mae llywodraeth leol a chenedlaethol a llunwyr polisi yng Nghymru yn parchu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn fawr am y dystiolaeth annibynnol a’r cyngor arbenigol y mae’n ei ddarparu i lywio’r broses o lunio polisïau. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gydag aelodau newydd ac aelodau presennol y Grŵp Cynghori yn fy rôl newydd fel cadeirydd, i ddarparu cyngor a her adeiladol ar gyfeiriad strategol y Ganolfan yn ogystal â chyfrannu at ei hamrywiol weithgareddau megis cysylltu â rhanddeiliaid allweddol a rhannu ei gwaith”.

Mae’r Grŵp Cynghori yn cynnwys academyddion ac ymarferwyr blaenllaw sy’n llywio ac yn gwella gwaith y Ganolfan i roi tystiolaeth a gwybodaeth annibynnol o ansawdd uchel i lunwyr polisi yng Nghymru.

Yn dilyn penderfyniad WCPP i ganolbwyntio ar dair blaenoriaeth sy’n cyd-fynd â rhai o’r heriau polisi mwyaf dybryd sy’n wynebu llunwyr polisi lleol a chenedlaethol Cymru – yr Amgylchedd a Sero Net, Llesiant Cymunedol a Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau, mae’r Ganolfan wedi gwahodd saith aelod newydd i ymuno â’i Grŵp Cynghori. Maen nhw’n dod â phrofiad penodol yn rhai o’r meysydd hyn a/neu wrth ddarparu tystiolaeth i wella’r broses o lunio polisïau. Dyma’r aelodau:

Aelodau newydd:

  • Noami Alleyne, Dirprwy Brif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Sara Jones, Cyfarwyddwr Consortiwm Manwerthu Cymru
  • Paul Matthews, Prif Weithredwr, Cyngor Sir Fynwy
  • Stephen Meek, Cyfarwyddwr y Sefydliad Polisi ac Ymgysylltu, Prifysgol Nottingham
  • Huw Morris, Athro Anrhydeddus, Coleg Prifysgol Llundain.
  • Lynda Sagona, Cadeirydd y Bwrdd, Cartrefi Dinas Casnewydd

Dyma aelodau presennol Bwrdd Cynghori WCPP:

  • Stephen Aldridge – Pennaeth Data, Dadansoddi ac Ystadegau, Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau
  • Annette Boaz – Athro Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Coleg y Brenin, Llundain
  • Abdool Kara – Cyfarwyddwr Gweithredol, Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol
  • Laura McAllister – Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu, Prifysgol Caerdydd
  • June Milligan – Cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru
  • Nick Pearce – Athro Polisi Cyhoeddus a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Polisi (IPR), Prifysgol Caerfaddon
  • Jane Roberts – Aelod o’r Bwrdd Taliadau Annibynnol a Chymrawd Gwadd, Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored