Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau ei hymrwymiad i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru i fynd i’r afael â thair her polisi allweddol:
- Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau
- Yr amgylchedd a sero net
- Lles Cymunedol
Yn y Senedd, wrth ddathlu deng mlynedd ers ei sefydlu, cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ‘CPCC yn 10’ sy’n nodi cynlluniau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill i ddarparu tystiolaeth annibynnol awdurdodol iddynt ar ffyrdd effeithiol o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o bob math; ymateb i’r argyfwng hinsawdd a chyflawni sero net; a hyrwyddo llesiant cymunedol. Mae’r blaenoriaethau rhyng-gysylltiedig a thrawsbynciol hyn yn hanfodol i gyflawni’r nodau hirdymor a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac i helpu pobl i ymdopi â’r argyfwng costau byw presennol.
I danlinellu hyn, mae’r Ganolfan wedi cyhoeddi’r dystiolaeth ddiweddaraf yn ei gwaith i gefnogi Grŵp Her Sero Net Cymru 2035, dan gadeiryddiaeth Jane Davidson, cyn Weinidog yr Amgylchedd, a hynny mewn ymateb i ‘Sut allai Cymru ddiwallu ei hanghenion ynni erbyn 2035 a hefyd roi’r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil yn raddol?’
Dros y deng mlynedd diwethaf, mae WCPP wedi llwyddo i gefnogi Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill drwy roi tystiolaeth i lunwyr polisïau ar bynciau sy’n amrywio o gydraddoldeb hiliol i ddigartrefedd, Brexit, adfer ar ôl y pandemig, cau’r bwlch cyrhaeddiad a mynd i’r afael ag unigrwydd ac allgáu cymdeithasol. Mae wedi cysylltu llunwyr polisïau yng Nghymru ag ymchwilwyr blaenllaw o bob cwr o’r byd i helpu i ddatblygu ystod o atebion polisi sy’n aml yn unigryw i Gymru.
Bydd partneriaeth WCPP â llywodraeth leol yn cael ei chryfhau ymhellach drwy ddau gyhoeddiad pwysig:
Yn gyntaf, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd fawr i gefnogi cynnydd sector cyhoeddus Cymru tuag at sero net erbyn 2030.
Yn ail, mae’r Ganolfan wedi ffurfio partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf yn ei chais llwyddiannus am £5m o gyllid NIHR i ymchwilio i benderfynyddion iechyd yn y rhanbarth er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau trigolion Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd Steve Martin, Cyfarwyddwr WCPP, “Rydym yn falch o’r rôl unigryw rydym wedi’i chwarae dros y deng mlynedd diwethaf o ran helpu llunwyr polisïau yma yng Nghymru i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf brys sy’n wynebu llywodraethau lleol a chenedlaethol ledled y byd.
“Drwy ddechrau gyda’r cwestiynau y mae arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ac uwch lunwyr polisi yn eu gofyn, rydym wedi gallu rhoi tystiolaeth ac arbenigedd awdurdodol ac annibynnol iddynt sy’n helpu i ganfod ymatebion polisi effeithiol ac atebion ymarferol.
“Mae gweithio gyda rhwydwaith byd-eang o arbenigwyr ymchwil a pholisi blaenllaw yn golygu y gallwn ddarganfod beth sydd wedi cael ei roi ar waith mewn mannau eraill, ac oherwydd ein bod yn deall y cyd-destun Cymreig, gallwn helpu llunwyr polisïau i benderfynu beth fydd yn gweithio orau iddyn nhw a’u cymunedau.”
Dywedodd Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru,” Mae gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru le canolog yn cefnogi’r ffordd y gellir llunio, cyflwyno a gweithredu polisïau Llywodraeth Cymru.
Fel Gweinidog, mae angen ichi gasglu cymaint o dystiolaeth a ffynonellau cyngor amgen ag sy’n bosibl, ac mae gan y Ganolfan yr awdurdod i allu cynnig yr ymdeimlad hwnnw o her pan fo angen.
Mae’r WCPP yn dod â chyngor sydd wedi’i wreiddio’n wirioneddol mewn tystiolaeth, dealltwriaeth o ehangder y dystiolaeth ac, yn bwysicaf oll, mae’n dod â’r gallu i ddadansoddi a chyflwyno’r dystiolaeth.
Mae’r Ganolfan yn deall y byd gwleidyddol y mae llywodraeth yn rhan ohono. Ni fydd y cyngor gorau yn y byd yn mynd i unman os nad yw’n deall y ffordd y mae’n rhaid i lywodraeth weithio i gyflawni polisi effeithiol ar gyfer pobl Cymru.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC a Rhondda Cynon Taf: “Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cyfrannu mewn modd amhrisiadwy at gefnogi gwaith mudiadau fel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a llunwyr polisi llywodraeth leol ledled Cymru. Mae ymrwymiad y WCPP i ddarparu tystiolaeth arbenigol wedi bod yn allweddol wrth lunio polisïau effeithiol sydd o fudd uniongyrchol i’n cymunedau.
“Mewn cyfnod lle mae gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth yn hollbwysig, rydym yn cydnabod pwysigrwydd dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae ymroddiad WCPP i ymchwil drylwyr a dadansoddiadau craff wedi gwella ein gallu i lunio polisïau sy’n mynd i’r afael â’r anghenion a’r heriau unigryw a wynebir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.”
Dywedodd Wendy Larner, Is-Ganghellor a Llywydd Prifysgol Caerdydd, “Roedd yn bleser gan Brifysgol Caerdydd gael ei dewis gan Lywodraeth Cymru i sefydlu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Rydym yn falch iawn o’r hyn mae’r ganolfan wedi llwyddo i gyflawni dros y deng mlynedd diwethaf.
“Mae’r Ganolfan yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel un sydd ar flaen y gad yn y mudiad ‘Beth sy’n Gweithio’ ac mae ei gwaith yn cyfrannu’n uniongyrchol at genhadaeth ddinesig y Brifysgol drwy’r cyfraniad cadarnhaol y mae’n ei wneud i les economaidd a chymdeithasol – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol dros y pum mlynedd nesaf i adeiladu ar y rôl hanfodol sydd gan y Ganolfan wrth gefnogi’r gwaith o lunio a chyflawni polisïau yng Nghymru.”
Dywedodd Dr James Canton, Cyfarwyddwr Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y Cyngor ar gyfer Polisi ac Ymgysylltu Cyhoeddus:
“Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil polisi cyhoeddus dros y degawd diwethaf. Gan ddathlu ei heffaith yng Nghymru a thu hwnt, mae ESRC, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, yn falch o fod wedi ymestyn ei gyllid am bum mlynedd arall yn gynharach eleni.
“Mae’r Ganolfan nid yn unig yn arwain dadleuon polisi yng Nghymru, ond mae hefyd yn cyfoethogi portffolio ehangach ESRC drwy hyrwyddo a rhannu’r hyn a ddysgwyd ynghylch paratoi tystiolaeth a gwella polisi. Mae’r Ganolfan yn chwarae rhan hollbwysig yn Rhwydwaith What Works y DU, gan roi llais cryf i Gymru a chefnogi Canolfannau eraill i weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig. Mae ESRC yn edrych ymlaen at gyfraniadau parhaus y Ganolfan i’r dirwedd ymchwil ac arloesi.”