Mae polisïau caffael cyhoeddus Cymru wedi denu sylw beirniadol sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda Swyddfa Archwilio Cymru yn tynnu sylw at ddiffygion strategol ac ymarferol, a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol yn canfod canlyniadau cymysg ynghylch effeithiolrwydd polisïau caffael.
Mae’r Prif Weinidog wedi tynnu sylw at bwysigrwydd caffael craffach a moesegol i gefnogi nodau polisi llesiant, codi statws caffael a harneisio ei bŵer i gefnogi busnesau bach a chanolig rhanbarthol a’r economi sylfaenol.
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi bod yn ystyried yr achos dros ddull mwy strategol o gaffael cyhoeddus, gyda chyfres o ddigwyddiadau a chyhoeddiadau dros y deunaw mis diwethaf.
Credwn ei bod yn werth dod â gweithwyr proffesiynol caffael cyhoeddus ynghyd i drafod dulliau ymarferol o fynd i’r afael â’r heriau sy’n eu hwynebu. Y nod oedd cynnig ‘man diogelwch’, gyda rhywfaint o sylwebaeth arbenigol a hwyluso trafodaeth bord gron agored a gonest am heriau ymarferol a’r hyn y mae angen ei wneud i fynd i’r afael â hwy.
Ymhlith y siaradwyr roedd:
• Liz Lucas, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
• Jane Lynch, Ysgol Fusnes Caerdydd
• Kevin Morgan, Ysgol Fusnes Caerdydd
• Steve Robinson, Cyngor Dinas Caerdydd
Gallwch ddarllen mwy am y digwyddiad hwn ar ein moment Twitter.