Mae addysg drydyddol yn cyfeirio at ddysgu ôl-16 – chweched dosbarth, addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned. Mae cyfranogiad o fewn y sector yn gysylltiedig ag ystod o ganlyniadau bywyd cadarnhaol, megis gwell cyfleoedd cyflogaeth, enillion uwch a llesiant gwell. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu bod anghydraddoldebau o ran mynediad i addysg drydyddol, dilyniant oddi mewn iddi, a deilliannau ohoni ymhlith gwahanol grwpiau.
Mae gan Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd, ddyletswydd i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn a hyrwyddo cyfle cyfartal ar draws yr holl sector addysg drydyddol. Yn fwy cyffredinol, mae Medr yn gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol yng Nghymru.
Comisiynwyd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) gan Lywodraeth Cymru yn 2022 i gefnogi Medr drwy ddefnyddio’r arbenigedd, tystiolaeth ac arfer gorau perthnasol sydd ar gael i helpu i nodi’r strwythurau, y prosesau, y mecanweithiau a’r cymhellion sydd fwyaf tebygol o ysgogi cyfle cyfartal yn y sector trydyddol yng Nghymru. I wneud hyn, gofynnwyd i ni ystyried y pynciau canlynol:
- Pa grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli mewn addysg drydyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, gan ddefnyddio’r data gorau sydd ar gael?
- Pa dystiolaeth sydd ar gael gan wledydd eraill y DU ac Iwerddon ar yr hyn sy’n gweithio o ran hyrwyddo tegwch mewn addysg drydyddol?
- Pa ymyriadau allai wneud iawn am yr anghydraddoldebau hyn orau?
I ymateb i’r pwnc cyntaf, rydym wedi gweithio gyda ADR Cymru i gynnal dadansoddiad data, gan archwilio pa grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli o fewn addysg drydyddol a sut. Ar gyfer yr ail bwnc, rydym wedi cynnal adolygiad cyflym o dystiolaeth o ddulliau polisi ac ymarfer perthnasol a ddefnyddir i wella tegwch mewn addysg drydyddol yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Yn olaf, gwahoddwyd pedwar arbenigwr blaenllaw i fyfyrio ar yr hyn y gellir ei wneud i wella tegwch mewn addysg drydyddol yng Nghymru o ystyried y dadansoddiad data a’r adolygiad o dystiolaeth.
Er eu bod yn wahanol, mae’r allbynnau hyn yn rhannu themâu trawsbynciol i Medr eu hystyried:
- Mae mynediad yn anghyfartal: Nid yw mynediad i addysg drydyddol yng Nghymru yn gyfartal ymhlith dysgwyr. Mae pobl ifanc o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol mwy difreintiedig yn llai tebygol o symud ymlaen i addysg drydyddol, ac yn fwy tebygol o ymgymryd â llwybrau galwedigaethol yn hytrach nag academaidd. Mae dysgwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol mwy difreintiedig hefyd yn llai tebygol o ddilyn prentisiaethau lefel uwch. Mae pobl anabl hefyd yn llawer llai tebygol o symud ymlaen i addysg drydyddol. Mae menywod ifanc yn llawer mwy tebygol o ymgymryd â llwybrau academaidd na dynion ifanc, fel y mae siaradwyr Cymraeg rhugl.
- Mae cyfranogiad yn gymharol isel: Mae cyfranogiad mewn addysg uwch yn 18 oed yn is yng Nghymru nag unrhyw wlad arall yn y DU, a dynion ifanc o Gymru sydd leiaf tebygol o fynd i’r brifysgol. Mae angen deall felly beth sy’n llywio’r gwahaniaeth mewn cyfraddau cyfranogiad, yn enwedig o ystyried y gyfradd uchel a chynyddol o bobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
- Mae’r dystiolaeth o ‘beth sy’n gweithio’ yn gyfyngedig: Mae rhai ymyriadau yn dangos addewid. Fodd bynnag, mae angen parhau i werthuso llwyddiant mentrau ehangu cyfranogiad presennol yng ngoleuni ymrwymiadau presennol Cymru a rhai’r gorffennol yn y maes hwn. Mae tystiolaeth ynghylch ehangu cyfranogiad mewn addysg bellach a dysgu gydol oes yn llawer mwy cyfyngedig, ac mae angen ymchwil pellach. Gallai cysylltu data gweinyddol addysg â data enillion, cyflogaeth a budd-daliadau helpu i roi gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng addysg a chyflogaeth oedolion.