Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil WCPP i rôl cymunedau a’r defnydd o dechnoleg wrth liniaru unigrwydd yn ystod pandemig y Coronavirus.
Roedd mynd i’r afael ag unigrwydd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus cyn pandemig y Coronafeirws ac mae wedi dod yn bwysicach fyth ers hynny. Mae’r cyfyngiadau symud a’r polisïau cadw pellter cymdeithasol a gyflwynwyd mewn ymateb i’r pandemig wedi cynyddu unigrwydd a herio’r dulliau o fynd i’r afael ag ef, a amlinellwyd yn strategaeth unigrwydd Llywodraeth Cymru Cysylltu Cymunedau (2020). Mae’r cyfyngiadau symud hefyd wedi newid ein perthynas â’n hardal leol, gan alluogi gweithredu cymunedol i ffynnu mewn mannau yn ogystal â chynyddu amlygrwydd cyfathrebu digidol.
Fel rhan o raglen ehangach o waith ar unigrwydd, cynhaliodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ymchwil gyda 71 o bobl sy’n ymwneud â thros 50 o grwpiau cymunedol anffurfiol a graddfa fach ffurfiol i ddeall profiad gweithgarwch cymunedol ledled Cymru yn ystod y pandemig, gan ganolbwyntio ar:
- Effaith gweithgarwch cymunedol ar brofiadau o unigrwydd;
- Y rôl a chwaraeodd dechnoleg wrth hwyluso swyddogaethau grŵp a chyrraedd y rhai sydd fwyaf mewn perygl o unigrwydd; a
- Sut y gellid cynnal, galluogi a gwella gweithgarwch cymunedol o’r fath.
Mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at bresenoldeb a phwysigrwydd y rhwydweithiau, yr isadeileddau a’r strwythurau llywodraethu ehangach sy’n sail i weithredu a chysylltiad cymunedol. Mae’r rhain wedi cael eu datblygu a’u dirywio yn ystod y pandemig. Bydd cefnogi, cynnal a chryfhau’r rhain yn allweddol i hyrwyddo cysylltiad cymunedol trwy’r adferiad rhag y pandemig a thu hwnt.
Darperir argymhellion yn seiliedig ar ‘yr hyn a weithiodd yn dda’ ar gyfer: mynd i’r afael ag unigrwydd mewn cymunedau; dulliau cyfunol o fynd i’r afael ag unigrwydd â thechnoleg; cydweithredu â grwpiau cymunedol; a gwneud y gorau o adnoddau cymunedol.
Rydym hefyd wedi cynhyrchu cyfres o fideos sy’n darparu trosolwg o’r gwaith hwn
Mae Rhan 1 yn edrych ar ganfyddiadau allweddol ar rôl cymunedau wrth fynd i’r afael ag unigrwydd, gan dynnu sylw at bwysigrwydd mynediad at bethau ystyrlon i’w gwneud, a’r seilweithiau sy’n hwyluso hyn.
Mae Rhan 2 yn ystyried canfyddiadau allweddol ar ddefnyddio technoleg wrth fynd i’r afael ag unigrwydd, gan bwysleisio pwysigrwydd dulliau cyfunol, lle mae rhyngweithiadau digidol yn gwella neu’n galluogi cysylltiad mewn gofod corfforol.
Mae Rhan 3 yn edrych ar ganfyddiadau allweddol ar alluogi, cynnal a gwella gweithredu cymunedol, gan amlinellu’r rolau hanfodol y mae strwythurau llywodraethu ac ariannu yn eu chwarae, asedau yn seiliedig ar le, a chydweithio.