Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio canlyniadau pedwar gweithdy mewn ardaloedd lle mae pobl yn dioddef â thlodi ac allgáu cymdeithasol. Mae’r gweithdai’n rhan o brosiect ehangach Canolfan Polisïau Cyhoeddus Cymru dros Lywodraeth Cymru – adolygu strategaethau, rhaglenni a chamau rhyngwladol sy’n anelu at drechu tlodi ac allgáu cymdeithasol, er mwyn llywio polisïau yn y maes hwn yn y dyfodol.
Nod y gweithdai oedd ymgysylltu â phobl y cyrion i ofalu eu bod yn cael dylanwadu ar brosesau llunio polisïau Cymru ym meysydd tlodi ac allgáu cymdeithasol yn hytrach na cheisio hel rhagor o ddata ansoddol i ategu’r dystiolaeth.
Gwahoddwyd pobl trwy ddau fudiad gwirfoddol sy’n ymwneud â nhw: Camau yng Nghaerau a Threlái a’r Ganolfan dros Ddatblygu Camau Cymdeithasol. Cymerodd 42 o bobl ran yn y gweithdai a ddigwyddodd ym mis Medi 2021.
Mae’r canfyddiadau’n dangos bod costau uchel a chynyddol bwyd, nwy a thrydan yn achosi anawsterau sylweddol o ran rheoli incwm ac, o ganlyniad, roedd pobl yn bryderus iawn. Dywedodd mamau plant ifanc yn y gweithdai fod prinder a phris uchel gofal plant yn ffactorau allweddol ynghylch achosi tlodi ac allgáu cymdeithasol yn eu plith.
Yn y trafodaethau am fudd-daliadau, dywedodd pobl nad oedden nhw’n ddigonol i ymdopi â chostau byw cynyddol a bod cymhlethdod diangen yn nhrefniadau hysbysebu a gweinyddu’r taliadau. Roedd pobl o’r farn nad yw trefn y budd-daliadau yn annog pobl i chwilio am waith neu ychwanegu at eu horiau a dywedodd rhai bod y ffordd o weinyddu’r drefn yn gwneud iddyn nhw deimlo fel da byw.
Dywedodd pobl fod y materion hynny a’u profiad o dlodi ac allgáu cymdeithasol yn amharu ar iechyd y meddwl a lles. Awgrymodd pobl yn y gweithdai nifer o bethau i wella’r sefyllfa megis gwersi rheoli arian yn yr ysgolion uwchradd, rhagor o gymorth ynglŷn â mynnu a deall budd-daliadau a rhagor o gymorth cofleidiol – yn arbennig ar gyfer dod o hyd i swydd a’i chadw.