Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r opsiynau tebygol a fydd yn cael eu hystyried gan Lywodraeth y DU pan fydd yn datblygu polisi mewnfudo newydd ar ôl i’r DU adael yr UE, yn ogystal â goblygiadau a risgiau posibl yr opsiynau hyn i economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan ystyried y patrymau mewnfudo presennol sy’n gysylltiedig â gweithlu Cymru.
Mae’n dadlau fel a ganlyn:
- Bydd proses Brexit yn gymhleth, am fod trafodaethau Erthygl 50 yn cwmpasu gwladolion yr AEE sy’n preswylio yn y DU, ac am fod angen deddfwriaeth ddomestig ar gyfer system fewnfudo ar ôl Brexit.
- Nid yw’n glir a fydd trafodaethau masnach rhwng y DU a’r UE yn cwmpasu mewnfudo.
- Mae tua 80,000 o wladolion yr AEE yn preswylio yng Nghymru, ac mae’n debygol y bydd statws preswylio’n barhaol yn cael ei roi iddynt, ond mae nifer o broblemau cyfreithiol a gweinyddol cymhleth i’w datrys.
- Nid yw’n glir a fydd system fewnfudo ar ôl Brexit yn parhau i roi blaenoriaeth i ddinasyddion Ewropeaidd, a fydd yn cynnwys elfennau sectorol a/neu ranbarthol, a sut mae’n mynd i’r afael â’r angen i ddenu gweithwyr medrus.
- Mae Cymru’n llai dibynnol ar weithwyr mudol na’r DU yn ei chyfanrwydd, ond gall rhai sectorau ddioddef (e.e. gweithgynhyrchu, gwestai ac arlwyo, iechyd a gofal cymdeithasol ac addysg uwch).
- Byddai hwyluso’r broses o roi statws preswylio’n barhaol i wladolion yr AEE, parhau â’r rhyddid i symud am gyfnod penodedig ar ôl Brexit, rhoi system fewnfudo newydd ar waith yn ofalus fesul cam, osgoi cyfyngiadau a chwotâu, ystyried cynlluniau mewnfudo rhanbarthol a bod yn fwy agored i dderbyn gwladolion nad ydynt o’r UE yn lleihau’r risgiau i economi Cymru a’i marchnad lafur.
(Mae adroddiad yr Athro Portes yn dechrau ar dudalen 49)