Gofynnodd cyn-Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Plant a Chymunedau i Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru gynnal adolygiad mewnol o’r dystiolaeth ynghylch agweddau plant at gosbau corfforol a’r cysylltiadau rhwng cosbau corfforol gan rieni a’r deilliannau i blant.
Mae agweddau plant at gosbau corfforol gan rieni’n amrywio, ond maent yn negyddol ar y cyfan. Mae plant sydd wedi cael cosbau corfforol neu blant iau’n fwy tebygol o’i gefnogi. Fodd bynnag, cosbau corfforol yw’r math mwyaf difrifol o gosb ym marn plant, ac maent yn dweud eu bod yn eu brifo’n gorfforol ac yn emosiynol. Mae rhai plant yn ei gysylltu â rhieni crac sydd wedyn yn ei ddifaru.
Mae cannoedd o astudiaethau wedi archwilio’r cysylltiadau rhwng cosbau corfforol gan rieni a’r canlyniadau i blant, ac yn aml maent wedi dod i gasgliadau gwahanol sydd weithiau’n gwrthgyferbynnu ei gilydd. At ei gilydd, mae’r dystiolaeth yn cefnogi’r casgliadau canlynol ar y cyfan:
- Mae cosbau corfforol difrifol a cham-drin plant yn niweidio datblygiad plant.
- Mae cysylltiad rhwng yr amodau a’r ffordd y mae cosbau corfforol fel arfer yn cael eu defnyddio gan rieni’n cydberthyn i ganlyniadau negyddol i blant.
- Nid yw cosbau corfforol yn ddull mwy effeithiol o newid ymddygiadau yn y tymor byr na mathau eraill o ddisgyblaeth anghorfforol, i blant anufudd.
- Nid oes unrhyw ymchwil sydd wedi’i hadolygu gan gymheiriaid, a’i hail-gynhyrchu, i ddangos bod cosbau corfforol yn cael effeithiau cadarnhaol ar ganlyniadau datblygiadol hirdymor.