Gwneud gwerth cymdeithasol yn rhan o brosesau caffael

Mae disgwyliad cynyddol i gaffael cyhoeddus sicrhau canlyniadau cadarnhaol i gymdeithas a’r cymunedau y mae cyrff cyhoeddus yn eu gwasanaethu. Nid yw’r pwyslais hwn ar werth cymdeithasol yn gysyniad newydd, ac mae enghreifftiau rhyngwladol o sut y gall caffael cyhoeddus arwain at effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cadarnhaol. Mae darparu gwerth cymdeithasol drwy gaffael yn arbennig o bwysig o ystyried y cyfyngiadau presennol ar gyllid cyhoeddus, sy’n golygu bod unrhyw fudd ychwanegol sy’n deillio o weithgarwch caffael yn eithriadol o werthfawr.

Yng Nghymru, mae’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (SPPPA, 2023) yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i ymgymryd â ‘chaffael cymdeithasol gyfrifol,’ yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae hyn yn clymu deddfwriaeth caffael cyhoeddus yn agosach â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Er mwyn cefnogi’r gwaith o roi’r SPPPA ar waith, gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru arddangos arferion da presennol ym maes caffael cymdeithasol gyfrifol. Mae ein hadroddiad, a ysgrifennwyd gan yr Athro Jane Lynch o’r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus, Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, yn cyflwyno saith astudiaeth achos arfer da o amrywiaeth o sefydliadau yng Nghymru a’r DU, o safbwynt prynwyr a chyflenwyr, ac sy’n archwilio agweddau ar arfer da o bob rhan o’r cylch caffael.

Nod yr adroddiad yw cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes caffael, a gweithwyr proffesiynol eraill, yn eu hymarfer; mae cyfweliadau fideo yn cyd-fynd â’r adroddiad i dynnu sylw at brif ganfyddiadau pob achos.