Mae gwirfoddoli wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi cymunedau yn ystod y pandemig. Gwelwyd cynnydd cyflym yn y diddordeb mewn gwirfoddoli yn gynnar yn y pandemig, ac mae gwirfoddolwyr wedi helpu i ddiwallu anghenion emosiynol a chorfforol pobl yn ystod yr argyfwng. Mae diddordeb eang ymysg llunwyr polisi ac ymarferwyr i gynnal y gweithgarwch hwn er mwyn cyfrannu at adferiad ar sail llesiant yng Nghymru.
Fel sail i’r gwaith o gynllunio’r adferiad hwn, fe wnaethon ni gynnal dwy astudiaeth ar gyfraniad gwirfoddoli i lesiant unigol a chymunedol yn ystod y pandemig: cyfuniad o 50 o astudiaethau achos yn seiliedig ar ymarfer gan ddefnyddio dull cyfuno astudiaethau achos (Rhan I: Dysgu o ymarfer) ac adolygiad cyflym o’r dystiolaeth (Rhan II: Adolygiad cyflym o dystiolaeth).
Rhan I: Dysgu o ymarfer, hwn yn cynnwys dadansoddiad o astudiaethau achos ar sail ymarfer o wirfoddoli yng Nghymru yn ystod pandemig y Coronafeirws. Mae’n archwilio’r berthynas rhwng gwirfoddoli a llesiant unigol a chymunedol.
Rhan 2: Adolygiad cyflym o dystiolaeth, hwn yn cyfuno tystiolaeth sydd wedi dod i’r amlwg ynghylch gwirfoddoli a llesiant yn ystod pandemig y Coronafeirws. Mae’n seiliedig ar chwiliad cyflym a chyfuniad o dystiolaeth a gyhoeddwyd rhwng mis Mawrth 2020 a mis Chwefror 2021.
Mae’r adroddiad hwn yn rhan o brosiect ehangach ar wirfoddoli a llesiant a gynhaliwyd rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2021, sydd hefyd yn cynnwys cyfuno astudiaethau achos gwirfoddoli o bob rhan o Gymru a gasglwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), a mudiadau partner.
Arweiniwyd y prosiect gan CGGC mewn partneriaeth â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac WLGA. Ariannwyd y prosiect drwy Grant Adfer Gwirfoddoli yn sgil y Coronafeirws 2020/21 Llywodraeth Cymru. Bydd y prosiect yn adeiladu ar waith is-grŵp adfer ar ôl Covid Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, ac yn hysbysu gwaith Llywodraeth Cymru ar alluogi gwirfoddoli a’r sector gwirfoddol i gyfrannu at adferiad sy’n cefnogi nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).