Bydd plant a theuluoedd ‘mewn perygl’ yn rhyngweithio’n aml ag asiantaethau a gwasanaethau lluosog. Mae wedi bod yn ddyhead ers amser maith bod y cyrff hyn a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu yn cael eu cydgysylltu’n well ac, ar ben hynny, yn troi o gwmpas y bobl y maent yn ceisio eu helpu. Gyda gwaith arall yn canolbwyntio ar y ffactorau sy’n arwain at blant yn derbyn gofal ac unigrywiaeth materion a llwybrau plant mewn gofal , mae’r adolygiad hwn yn ceisio hyrwyddo’r pwnc trwy ddadansoddi sut gall gwaith amlasiantaeth mewn gwasanaethau plant arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Seiliwyd hyn ar ddealltwriaeth y gall mwy o gydlynu a chydlyniant arwain at ganlyniadau gwell i blant a’u teuluoedd.
O ganlyniad, trafodwyd gwaith amlasiantaeth yn academaidd a chan lywodraethau ledled y byd fel sbardun allweddol i wella’r system gofal cymdeithasol i blant. Yn y Deyrnas Unedig, mae gwaith amlasiantaeth wedi bod yn ganolbwynt i wasanaethau plant ers yr 1980au . Yng Nghymru, mae fframwaith polisi helaeth sy’n cefnogi gwaith amlasiantaeth i blant, sy’n cynnwys rhaglenni fel Teuluoedd yn Gyntaf, deddfwriaeth fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), fframweithiau arolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru, a Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Wella Canlyniadau i Blant.
Mae’r nodyn briffio hwn yn ceisio dwyn ynghyd fewnwelediadau o lenyddiaeth academaidd a llwyd i gysylltu gwaith amlasiantaeth a chanlyniadau i blant sy’n derbyn gofal. Adolygwyd saith deg pump o astudiaethau, y mwyafrif o’r Deyrnas Unedig, er bod tystiolaeth berthnasol o wledydd eraill, megis Portiwgal, Awstralia, a Seland Newydd. Mae’r astudiaethau hyn hefyd yn ymdrin ag ystod o anghenion penodol, fel plant ag anableddau, ond hefyd plant ifanc a phlant mewn sefyllfaoedd bregus.
Rydym yn archwilio’r ffactorau y mae’r llenyddiaeth yn dangos eu bod yn gallu cynyddu effeithiolrwydd gwaith amlasiantaeth mewn gwasanaethau plant a’r hyn y gall yr effeithiolrwydd hwnnw ei olygu o ran canlyniadau i blant mewn gofal a’u teuluoedd.
Darllenwch ein holl waith ar blant sy’n derbyn gofal yma.