Cydnabuwyd ers tro fod yn rhaid i’r gwasanaethau sy’n cynnig cymorth gael eu darparu mewn ffordd gydlynol a ‘chyd-gysylltiedig’ ar gyfer y plant mwyaf agored i niwed, y rhai sydd mewn perygl o fynd i ofal.
Mae hyn oherwydd problemau ac anghenion sy’n gorgyffwrdd; y rhai sy’n cael eu crybwyll amlaf yw’r ‘triawd sbarduno’ sef camddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig, a salwch meddwl. Ond hefyd oherwydd bod y ffactorau risg sylfaenol – tlodi, amddifadedd ac anghydraddoldebau ehangach – yn torri ar draws seilos neu ffiniau polisi a chyflawni.
Felly, er mwyn ymateb yn ddigonol i anghenion y plant hyn a’u teuluoedd mae angen gweithio mewn partneriaeth ar draws nifer o asiantaethau.
Yng Nghymru, mae gwella gwaith aml-asiantaeth er mwyn cefnogi plant a theuluoedd wedi bod yn flaenoriaeth mewn polisi cenedlaethol o leiaf ers 2010 os nad cyn hynny. Ac eto, mae tystiolaeth yn awgrymu nad yw’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad yn cyflawni’r uchelgais polisi.
Rydym ni wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau allweddol yn ardal Cwm Taf Morgannwg (CTM) i’w helpu i ganfod sut y gallent wella eu gwaith aml-asiantaeth er mwyn cefnogi plant a theuluoedd.
Ein nod oedd deall y gofynion statudol, “aeddfedrwydd” gwaith aml-asiantaeth yn yr ardal, a’r camau y gellid eu cymryd i gefnogi gwaith aml-asiantaeth. Fe wnaethom gynnal adolygiad desg, siarad ag 11 o bobl a oedd yn ymwneud â chydlynu a darparu gwasanaethau ar draws CTM, a chynnal dau weithdy. Mynychwyd y rhain gan 34 o gyfranogwyr a oedd yn gweithio ar lefel ranbarthol ar draws gwasanaethau cymdeithasol, diogelu, diogelwch cymunedol, yr heddlu, y trydydd sector, y bwrdd iechyd, cydgomisiynu, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, yr heddlu a’r tri awdurdod lleol.
Beth wnaethon ni ei ganfod? Rhannodd pobl eu hawydd i ddarparu’r dewis gorau i gymunedau. Fe wnaethant ddweud wrthym hefyd eu bod yn gweithredu mewn tirwedd ddeddfwriaethol a gwleidyddol heriol sy’n cynhyrchu “gormod o bartneriaethau” a “gormod o gyfarfodydd”. Mae’r ymdrech i gydlynu gweithgareddau sy’n ‘cyd-gysylltu’ yn ‘ychwanegol’ a’r tu allan i fusnes craidd. Mae arweinyddiaeth, gweledigaeth ac eglurder ar y cyd ynghylch y priod rolau a’r rhyngweithio rhwng Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chyrff strategol eraill yn hanfodol ar gyfer y gweithlu llawn cymhelliant hwn.
Mae Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Dan Bristow, wedi cyhoeddi blog ar sut mae polisi a deddfwriaeth wedi creu trefniadau partneriaeth cymhleth sy’n rhwystr rhag rhoi cymorth effeithiol i blant a theuluoedd.
Meysydd allweddol eraill o ddiddordeb i’n partneriaid yng Nghwm Taf Morgannwg oedd amser ac adnoddau i ‘gyflawni’ perchnogaeth gymunedol yn dda, a chreu cyd-ddealltwriaeth o angen ar draws yr Awdurdodau Lleol ac asiantaethau eraill. Mae enghreifftiau o waith i ddatblygu darlun ar y cyd, er enghraifft drwy’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth, ond mae data a gwybodaeth yn aml yn cael eu cyfyngu mewn parthau polisi neu strwythurau rhanbarthol.
Rydym ni nawr yn ystyried a yw’r canfyddiadau hyn yn taro tant ledled rhanbarthau eraill yng Nghymru.