Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau adolygiad o’r dystiolaeth ryngwladol am ddulliau rheoli darpariaeth lleoliadau i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, gan nodi meysydd allweddol i’w dadansoddi ymhellach.
Rydym yn nodi pum maes dargyfeirio allweddol rhwng y gwledydd a astudiwyd a fyddai’n addas i’w hastudio ymhellach:
- Y cydbwysedd rhwng ailuno a sefydlogrwydd.
- Cynnwys llais plant a theuluoedd wrth wneud penderfyniadau am leoliadau.
- Y cydbwysedd rhwng darpariaethau gwladwriaethol a phreifat a darpariaethau’r trydydd sector.
- Y mathau o wasanaethau lleoli.
- Dulliau comisiynu strategol.
Er bod gwahaniaethau pwysig rhwng y gwledydd a astudiwyd, maent i gyd yn wynebu llawer o heriau tebyg. Er enghraifft, roedd pryder ym mhob gwlad am gostau gofal a nifer y lleoliadau addas sydd ar gael. Ni ellir dweud bod unrhyw wlad wedi ‘datrys’ problem comisiynu strategol.
Darllenwch ein holl waith ar blant sy’n derbyn gofal yma.