Mae angen gofyn cwestiynau sylfaenol ac mae angen gwneud dewisiadau am ddyfodol cymdeithas ac economi Cymru. Er enghraifft, a ddylai Cymru hyrwyddo diwydiannau newydd, gwyrdd, gan fanteisio ar dechnolegau newydd a phrosesau diwydiannol gwell y gellir eu hallforio ac a all ysgogi twf economaidd? Neu a ddylai Cymru yn hytrach ddilyn strategaeth o ‘ddirywiad’ graddol i leihau ei heffaith ar adnoddau naturiol a chynyddu cynaliadwyedd a gwydnwch economïau lleol?
Mae’r dewisiadau hyn yn mynd y tu hwnt i benderfyniadau technocrataidd ynghylch sut i gyrraedd nod cytûn, yn hytrach maent yn cynnwys dewisiadau gwleidyddol ac economaidd ynghylch sut olwg fydd ar siâp economi Cymru a strwythur cymdeithas Cymru yn y dyfodol. Mae’n bwysig mynegi’r dewisiadau hyn, er mwyn i’r cyhoedd allu dewis pa rai i’w cymeradwyo, ac i alluogi llunwyr polisïau i fanteisio ar bersbectif strategol, hirdymor. Bydd hyn yn gofyn am gamau gweithredu i adeiladu’r weledigaeth hon ar gyfer y dyfodol.
Yn WCPP, rydym yn cyfrannu at y drafodaeth hon drwy gomisiynu ystod o arbenigwyr â safbwyntiau amrywiol i gefnogi llunwyr polisïau i ffurfio eu strategaethau hirdymor. Gofynnwyd i’n harbenigwyr ysgrifennu papurau barn ar rai o’r cwestiynau allweddol sy’n ymwneud â datgarboneiddio yng Nghymru, gan amlygu pam y dylai eu safbwynt gael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Datblygiad economaidd: Twf neu ddad-dwf gwyrdd?
A yw twf economaidd parhaus yn bosibl, neu hyd yn oed yn ddymunol, yn ystod y newid i sero net? Neu a ddylem yn hytrach fynd ar drywydd dirywiad, a fyddai’n golygu gostyngiad bwriadol yn y defnydd o adnoddau? Mae ein darnau yn archwilio’r cwestiwn hwn yng ngoleuni amgylchedd polisi a deddfwriaethol Cymru, gan gynnwys goblygiadau’r naill ddull neu’r llall ar gyfer llesiant cenedlaethau’r dyfodo
Anghenion ynni ar gyfer economi Cymru yn y dyfodol
Mae’n debyg mai’r trawsnewid ynni yw’r agwedd fwyaf datblygedig ar ddatgarboneiddio, ond, fel y dangosodd digwyddiadau diweddar, mae angen ei reoli’n ofalus o fewn cyd-destun systemau ynni ehangach. Bydd ein darnau yn archwilio’r gwahanol opsiynau ar gyfer dyfodol ynni Cymru, a sut mae’r opsiynau hyn yn gosod gofynion gwahanol ar seilwaith.
Pa mor wyllt ddylai Cymru fod? Defnydd tir, amaethyddiaeth a newid hinsawdd
Er bod cytundeb cyffredinol y dylid defnyddio tir i warchod a hyrwyddo bioamrywiaeth, mae amaethyddiaeth yn parhau i fod yn arwyddocaol yn nhirwedd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru yn ogystal â’i rôl mewn cynhyrchu bwyd. Felly bydd angen i ddadleuon ynghylch ail-wylltio ac adfywio ecosystemau gydbwyso anghenion cymunedau gwledig â nodau sero net ehangach. Bydd ein darnau yn ystyried gwahanol agweddau ar y materion hyn.