Gofynnodd Prif Weinidog Cymru i ni baratoi asesiad annibynnol o sut mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru’n datblygu arweinwyr y dyfodol i fod yn effeithiol, ac i fodloni anghenion pobl Cymru. Roedd ffocws penodol ar p’un a oedd gan arweinwyr y dyfodol brofiad helaeth o’r sector cyhoeddus, yn ogystal â’r sgiliau a’r ymddygiadau i ymateb i heriau polisi presennol, a heriau i’r dyfodol.
Daeth i’r amlwg bod darpariaeth bresennol a defnydd o arweinyddiaeth a datblygiad yn amrywio ledled y sector cyhoeddus, a gall Academi Cymru chwarae rhan amlycach o ran sicrhau bod gan bob rhan o’r sector cyhoeddus fynediad at hyfforddiant a datblygiad o safon. Er bod awydd i gael rhagor o gydweithio, mae angen canolbwyntio hefyd ar lwybrau cynnydd ffurfiol a chyfleoedd hyfforddiant. Mae angen i arweinwyr hefyd fod â’r gallu i ymdopi â heriau trawsnewid digidol.