Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n caffael masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a’r Gororau cyn i’r fasnachfraint bresennol gyda Threnau Arriva Cymru ddod i ben (2018). Ers tro, mae wedi gobeithio creu gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu ar sail di-ddifidend. Yr awydd i wella gwerth am arian a chyfyngu ar y gallu i wneud elw ‘gormodol’ sy’n sail i hyn.
Gofynnodd cyn-Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru roi cyngor ar gynllun masnachfraint Cymru a’r Gororau yn y dyfodol ac, yn benodol, esbonio sut y gallai’r fasnachfraint gael ei chynllunio er mwyn darparu gwasanaethau rheilffyrdd di-ddifidend ar gyfer teithwyr. Daeth y Sefydliad â grŵp o arbenigwyr ynghyd i ystyried hyn.
Mae pwerau presennol Llywodraeth Cymru, a’r fframwaith cyfreithiol sy’n ymwneud â masnachfreintiau, yn golygu y bydd yn heriol darparu gwasanaeth di-ddifidend.
Ymchwiliodd y gweithdy i opsiynau ar gyfer hybu datblygiad sefydliad di-ddifidend addas, ond nid oedd y grŵp yn gytûn ynglŷn â’i botensial.
Trafododd y cyfranogwyr hefyd gytundebau masnachfraint amgen, megis ScotRail, sy’n ceisio gwella ansawdd gwasanaethau, sicrhau gwerth am arian a chyfyngu ar ‘renti’r’ sector preifat drwy gynllunio contractau’n well a chael cytundebau monitro mwy soffistigedig. Fodd bynnag, ni fydd dull gweithredu o’r fath yn debygol o gyflawni nodau Llywodraeth Cymru cymaint ag y bydd model di-ddifidend.