Mae cynyddu mynediad at addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC) yn flaenoriaeth fyd-eang gan yr ystyrir hyn yn allweddol ar gyfer mynd i’r afael ag ystod o anghydraddoldebau a’u hatal. Yn ogystal â chwalu rhwystrau ariannol a chynyddu argaeledd ECEC, rhaid i lywodraethau fynd i’r afael â rhwystrau diwylliannol, cymdeithasol a strwythurol i gynyddu mynediad ymhlith plant a theuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Ers mis Tachwedd 2023, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) a’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO) wedi arwain ymchwil ar y cyd i’r hyn sy’n gweithio i alluogi a chynyddu mynediad at ECEC ymysg plant a theuluoedd o leiafrifoedd ethnig.
Canfyddiadau ac argymhellion ledled y DU
Mae ein Crynodeb Polisi Cyffredinol yn crisialu canfyddiadau allweddol Adolygiad Cyflym o Dystiolaeth (RER) gan y Ganolfan Tystiolaeth ar gyfer Gwybodaeth Polisi ac Ymarfer (EPPI) a Sgan Polisi Rhyngwladol gan y Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer Cyngor Gwyddonol i Lywodraethau (INGSA). Ar sail y dystiolaeth, rydym yn argymell bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y DU yn canolbwyntio ymyriadau polisi posibl ar y canlynol:
- Datblygu strategaeth bwrpasol ac integredig i fynd i’r afael yn ddigonol â’r ffactorau lluosog, rhyngberthynol sy’n effeithio ar fynediad lleiafrifoedd ethnig;
- Mynd i’r afael â rhwystrau cymdeithasol, diwylliannol ac ymarferol i ddeall ac ymateb yn well i anghenion cymunedau penodol a datblygu arferion sy’n fwy sensitif yn ddiwylliannol; a
- Defnyddio gwaith maes ac ymgysylltu cymunedol i gynyddu cyfranogiad mewn ECEC.
Mae ein hargymhellion yn ymateb i heriau ledled y DU a nodwyd gan yr ymchwil ynghylch bylchau mynediad, gan fod argaeledd gofal plant a hygyrchedd yn parhau i fod yn faterion sylweddol i lawer, a data annigonol oherwydd diffyg data ethnigrwydd (manwl) a gesglir fel mater o drefn.
Beth mae’r canfyddiadau hyn yn ei olygu i Gymru?
Mae’r prosiect IPPO-WCPP hwn yn deillio o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am eu nodau polisi o ran Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC) a’u hymrwymiad i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol 2022 sy’n enwi Chwarae a Gofal Plant yn faes polisi allweddol.
Er mwyn blaenoriaethu a throsi ein canfyddiadau ymchwil a’n hargymhellion i Gymru, buom yn cydweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu Theori Newid ar gyfer gofal plant blynyddoedd cynnar gwrth-hiliol sy’n annog Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar y canlynol:
- Integreiddio’r gymuned i ECPLC;
- Ymwreiddio sensitifrwydd diwylliannol a chynhwysiant;
- Cynyddu amrywiaeth a phroffesiynoldeb y gweithlu ECPLC; a
- Mynd i’r afael ag annigonolrwydd data.
Mae ein Nodyn Gwybodaeth am y Gweithdy yn rhoi rhagor o fanylion am ein dull gweithredu a’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd drwy weithdy gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol. Dau ganlyniad a gyhoeddwyd a lywiodd ac a siapiodd drafodaeth y gweithdy oedd:
- Map Synthesis Tystiolaeth sy’n edrych yn fwy systematig ar y dystiolaeth fyd-eang a’r dulliau addawol ochr yn ochr â mewnwelediadau lleol yn seiliedig ar Gymru; a
- Map systemau o’r prif rwystrau, canlyniadau ac actorion yng Nghymru a ddatblygwyd yn defnyddio’r dull SEPPA ar ddechrau’r prosiect.