Oherwydd y diffyg amrywiaeth yn aelodau’r bwrdd, nid yw llawer o fyrddau yng Nghymru yn adlewyrchu’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Ar hyn o bryd, mae ymgeiswyr Du, Asiaidd, o Leiafrifoedd Ethnig a phobl ag anabledd wedi’u tangynrychioli ar fyrddau yng Nghymru. Yn 2018-19, er bod 6% o boblogaeth Cymru yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol, roedd hynny’n wir am 3% yn unig o’r rhai a benodwyd; ac er bod gan 22% o boblogaeth Cymru anabledd, 5.1% yn unig o’r rhai a benodwyd oedd yn datgan bod ganddynt anabledd.
Ddechrau 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru’, ei strategaeth ar gyfer cynyddu amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus yng Nghymru. Gwneir oddeutu 100 o benodiadau bob blwyddyn gan neu ar ran gweinidogion Llywodraeth Cymru i fyrddau dros 54 o gyrff cyhoeddus. Gweledigaeth y strategaeth yw bod byrddau’r cyrff cyhoeddus hyn yn adlewyrchu amrywiaeth demograffig a nodweddion gwarchodedig pobl Cymru.
Mae’r heriau yn y system penodiadau cyhoeddus yn adlewyrchu’r anghydraddoldeb a’r gwahaniaethu mae grwpiau lleiafrifol yn eu hwynebu yn eu bywydau beunyddiol. O ganlyniad, mae cynyddu amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus yn galw am newid systemau a diwylliant i roi sylw i’r anghydraddoldeb hwn.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r drafodaeth mewn digwyddiad bord gron ar ddarparu gwell cefnogaeth i ymgeiswyr posibl ac ‘agos ati’ mewn grwpiau a dangynrychiolir wneud cais am benodiadau cyhoeddus yng Nghymru.