Cydweithio amlsector i wella llesiant cymunedol

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) a’r Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar (RCP) wedi bod yn cydweithio ar ymchwil i ddeall yn well beth yw rôl cydweithio amlsector wrth gefnogi gweithredu cymunedol a lles cymunedol.

Roedd dau gam i’r prosiect:

Roedd cam un yn cynnwys adolygiad o dystiolaeth yn defnyddio astudiaethau achos sy’n seiliedig ar ymarfer, llenyddiaeth lwyd o’r DU, a llenyddiaeth academaidd a gyhoeddwyd ers dechrau’r pandemig Covid-19 ar sut mae cydweithio amlsector yn dylanwadu ar weithredu a llesiant cymunedol. Mae crynodeb o’r dystiolaeth ar y pwnc hwn o gyn y pandemig, a ddatblygwyd gan Brifysgol Leeds Beckett, wedi cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r prif adroddiad.

Nododd yr adolygiad tystiolaeth ystod o gamau gweithredu sy’n helpu i ddatblygu cydweithio amlsector i gefnogi gweithredu a llesiant cymunedol. Mae’r camau hyn yn cael eu categoreiddio’n weithgareddau sy’n helpu i ddatblygu pwrpas cyffredin o fewn trefniadau cydweithio, trefniadau llywodraethu sy’n hyblyg ac yn esblygu drwy weithredu tuag at gyflawni’r pwrpas cyffredin hwnnw, a mecanweithiau ariannol sy’n cefnogi cydweithio

Roedd cam dau yn cynnwys gweithdy i ymgysylltu â’r prif ganfyddiadau o’r adolygiad tystiolaeth, archwilio eu perthnasedd i wahanol gyd-destunau ymarfer a pholisi, ac ymgorffori profiad ac arbenigedd sy’n seiliedig ar ymarfer yn y sylfaen dystiolaeth. Darllenwch bapur cefndir y gweithdy yma.

Mae’r canfyddiadau o’r adolygiad tystiolaeth a’r gweithdy wedi cael eu datblygu’n adroddiad – ‘Cydweithio amlsector i wella llesiant cymunedol’.

Mae canfyddiadau’r adolygiad tystiolaeth a’r gweithdy wedi cael eu datblygu’n adnodd ‘Fframwaith ar gyfer Gweithredu’ gyda’r nod o helpu i nodi camau gweithredu diriaethol y mae modd eu cymryd mewn gwahanol gyd-destunau i ddatblygu cydweithio amlsector sy’n gwella gweithredu a llesiant cymunedol. Yn hytrach na dim ond disgrifio sut beth yw cydweithio amlsector da, ei nod yw amlinellu rhai opsiynau ar gyfer ei gyflawni.