Mae’r arolwg mawr cyntaf o hyd a lled stigma tlodi yng Nghymru wedi canfod bod 25% o boblogaeth Cymru wedi profi stigma tlodi ‘bob amser’, ‘yn aml’ neu ‘weithiau’ yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Comisiynwyd Sefydliad Bevan gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal yr arolwg fel rhan o waith y Ganolfan i gefnogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn deall a mynd i’r afael â’r mater yn well – i ‘leihau, yn hytrach nag achosi stigma tlodi’ wrth greu a darparu polisïau a gwasanaethau.
Mae’r arolwg, a gynhaliwyd gan YouGov ac a gefnogir gan bartner y Ganolfan, yr Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO), yn datgelu i ba raddau y mae’r dimensiwn cudd, ond niweidiol, hwn o dlodi yn effeithio ar grwpiau mawr o boblogaeth Cymru, gyda phobl ifanc yn llawer mwy tebygol o gael eu heffeithio na chenedlaethau hŷn.
Dangosodd adroddiad blaenorol y Ganolfan, Adolygiad o Dlodi ac Allgáu Cymdeithasol yng Nghymru, fod stigma tlodi yn fath o ddioddefaint a all effeithio ar allu neu barodrwydd pobl i geisio cymorth neu gymryd rhan lawn yn eu cymunedau. I bob pwrpas, mae’n rhwystr rhag dianc o dlodi.
Mae’r arolwg yn edrych ar lefelau stigma tlodi yng Nghymru – stigma personol* a stigma strwythurol canfyddedig – a pha grwpiau o gymdeithas yng Nghymru sy’n fwyaf tebygol o’u profi.
Prif ganfyddiadau:
- Mae 1 o bob 4 oedolyn yng Nghymru wedi profi stigma tlodi ‘weithiau’, ‘yn aml’ neu ‘bob amser’ yn ystod y 12 mis diwethaf – 1 o bob 3 lle mae incwm blynyddol aelwydydd yn llai nag £20k.
- Mae pobl iau yn profi lefelau uwch o stigma tlodi strwythurol personol a chanfyddedig na phobl hŷn (dywedodd pobl 16-24 oed iddynt brofi 3 x yn fwy o stigma personol na phobl 65 oed a hŷn).
- Mae pobl sy’n profi ansicrwydd bwyd yn profi 3 x yn fwy o stigma personol na’r rheini nad ydynt yn wynebu ansicrwydd bwyd
- Y math mwyaf cyffredin o stigma tlodi personol yw lle ‘mae pobl yn gwneud tybiaethau negyddol amdanaf oherwydd nad oes gen i lawer o arian’
- Nid oedd stigma strwythurol canfyddedig yn amrywio yn ôl incwm aelwydydd – mae 9 o bob 10 oedolyn yn credu bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gwasanaethau cyhoeddus a’r cyfryngau yn cyfrannu at stigma tlodi.
- Mae pobl ag anableddau, y rhai sy’n byw mewn eiddo rhent a’r rhai sy’n derbyn budd-daliadau hefyd yn grwpiau sy’n fwy tebygol o brofi stigma yn gysylltiedig â thlodiac yn fwy tebygol o gredu mewn stigma strwythurol.
Dadansoddwyd yr arolwg gan Dr Greig Inglis o Brifysgol Gorllewin yr Alban ac Amanda Hill-Dixon a Josh Coles-Riley o’r Ganolfan. Mewn blog cysylltiedig, mae Dr Steffan Evans, Pennaeth Polisi (Tlodi) Sefydliad Bevan, wedi canmol y Ganolfan am godi proffil stigma tlodi ac wedi tynnu sylw at bolisïau a all helpu i’w leihau – gan bwysleisio mai tlodi ei hun yw prif sbardun y broblem.
*Mae stigma personol yn cyfeirio at brofiadau unigolion o gael eu barnu’n negyddol, eu hallgáu, neu eu trin yn annheg gan eraill am eu bod yn byw ar incwm isel.
Mae stigma canfyddedig yn cyfeirio at gred unigolion bod pobl sy’n byw ar incwm isel yn cael eu trin yn annheg gan wasanaethau cyhoeddus, y sawl sy’n gwneud penderfyniadau, a sefydliadau fel y cyfryngau.