Dros nifer o flynyddoedd, mae rhai byrddau iechyd lleol wedi cael trafferth cynnig gwasanaethau iechyd boddhaol o fewn eu hadnoddau presennol. Mae un bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig a rhai eraill yn cael arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi gwybodaeth gan academyddion ac ymarferwyr arbenigol am beth sy’n effeithiol o ran ategu gwelliannau o fewn byrddau iechyd, naill ai drwy ymyrryd neu feithrin amgylchedd mwy cefnogol.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod cael y bobl briodol mewn rolau arweiniol yn bwysig ac y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ymyrryd lle bo hyn yn berthnasol. Fodd bynnag, os yw sefydliad mewn trafferth, go brin y bydd newid yr arweinydd yn unig yn mynd i fod yn effeithiol. P’un a ydych yn ymyrryd ai peidio, mae angen dealltwriaeth glir o ddisgwyliadau a sut i’w cyflawni, yn ogystal â bod yn agored i feirniadaeth a heriau, er mwyn meithrin gwelliannau drwy’r system gyfan.