Lluniwyd y papur hwn ar adeg bwysig yn y drafodaeth am gaffael cyhoeddus yng Nghymru. Mae gwasanaethau caffael wedi cael eu beirniadu gan Swyddfa Archwilio Cymru a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, ac ar ôl blwyddyn o ymgynghori, cyhoeddodd cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y byddai’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn ei ffurf bresennol yn dod i ben yn raddol, ac y byddai strategaeth gaffael newydd yn cael ei datblygu.
Ochr yn ochr â hyn, gwelwyd awydd cynyddol i geisio sicrhau mwy o fudd cymdeithasol ac economaidd o’r £6 biliwn o wariant caffael cyhoeddus blynyddol ledled Cymru. Erbyn hyn mae nifer o fentrau Llywodraeth Cymru yn dweud y dylid defnyddio caffael i ysgogi canlyniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach, gan gynnwys creu gwaith teg, hybu economïau lleol, lleihau ôl troed carbon, ac atal masnachu pobl mewn cadwyni cyflenwi. Mae caffael hefyd wedi cael ei nodi fel cyfle i hybu canlyniadau amrywiol gan arbenigwyr sy’n gweithio yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru; gan gynnwys effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, cynhwysiant a chydraddoldeb.
Mae’n briodol felly i ni ystyried y canlyniadau y gall cyrff cyhoeddus obeithio amdanynt drwy gaffael a’r dulliau y gallant eu mabwysiadu er mwyn gwneud hyn. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod potensial go iawn i ‘gael mwy o fudd’ o gaffael a’i fod yn cynnig cyfle i fynd i’r afael â rhai o’r problemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf parhaus rydym yn eu hwynebu, yn fyd-eang, yn genedlaethol ac yn lleol. Yn yr adroddiad hwn, rydym yn cyflwyno gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth a fydd gobeithio’n sail i drafodaethau a phenderfyniadau am gaffael a chynaliadwyedd. Rydym yn ystyried beth yw caffael cyhoeddus cynaliadwy; y prif ddulliau o’i sicrhau; sut y gellir gweithredu’r rhain, gan gynnwys trafodaeth am rai o’r heriau a’r cyfnewidiadau; ac rydym yn cloi â’r negeseuon i gyrff cyhoeddus yng Nghymru.