Briffiadau Llesiant i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’n ofynnol bod Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynhyrchu asesiadau o lesiant bob pum mlynedd, yn unol ag etholiadau awdurdodau lleol. Dylai’r asesiadau hyn grynhoi’r sefyllfa o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ardaloedd yr awdurdodau lleol ac arwain at bennu amcanion ar gyfer gwella llesiant.

Gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru helpu’r BPRhau drwy ddarparu cyfres o friffiadau sy’n rhoi sylw i’r pynciau a’r tueddiadau craidd, er mwyn cefnogi’r broses o asesu llesiant. Mewn cydweithrediad â grŵp gorchwyl a gorffen o gynrychiolwyr o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, paratowyd trfi briffiad ar gyfer y pynciau canlynol:

  1. Cydraddoldeb: Ymdrin â chanlyniadau llesiant gwahaniaethol pobl sy’n perthyn i grwpiau penodol, gan gynnwys y rhai yr ystyrir eu bod yn agored i niwed neu dan anfantais; y rhai sy’n meddu ar un neu fwy o nodweddion gwarchodedig; plant dan 18 oed; pobl ifanc sy’n derbyn gofal; pobl y mae angen gofal arnynt a phobl sy’n ofalwyr. Mae’r briffiad hefyd yn ystyried sut gellir teilwra ymyriadau i fwyafu llesiant ar draws gwahanol grwpiau.
  2. Llesiant diwylliannol: Darparu meta-adolygiad hygyrch o’r dystiolaeth yn y maes hwn, gan gynnwys diffiniad ymarferol clir o lesiant diwylliannol; dealltwriaeth o’r hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddweud am effaith gweithgareddau gwahanol ar lesiant cymunedol, ac a oes canlyniadau gwahaniaethol ar gyfer grwpiau gwahanol; a pha gamau penodol allai gefnogi’r maes llesiant hwn.
  3. Effaith COVID-19 a Brexit ar lesiant: Ymdrin ag effeithiau ar lesiant sy’n gysylltiedig â’r rhain, gan gynnwys effaith y siociau economaidd, a sut mae’r effaith yn amrywio yn ôl grŵp, sector economaidd a daearyddiaeth. Mae’n ystyried sut gallai polisïau sy’n ymwneud â’r cyfnod pontio o’r UE ac adfer ar ôl y pandemig wella llesiant.

Y nod yw bod y briffiadau’n helpu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i asesu llesiant a phennu amcanion i’w wella. I gefnogi’r broses hon, mae pob un o’r tri briffiad yn cynnwys ystyried bylchau yn y dystiolaeth, elfennau ansicr a meysydd i’w harchwilio, yn ogystal â sut gellir defnyddio’r dystiolaeth a gyflwynir ar draws pob un o’r tri maes i gefnogi amcanion llesiant mewn ardaloedd lleol.