Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig deddfwriaeth i ddileu elw preifat o ddarparu gofal preswyl a maeth i blant. Nod hyn yw sicrhau bod arian cyhoeddus sy’n cael ei fuddsoddi er mwyn darparu gofal cymdeithasol i blant yn cael ei ddefnyddio i ‘roi profiadau a chanlyniadau gwell i blant a phobl ifanc, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a gwella gwasanaethau ac i roi mwy o ddatblygiad proffesiynol i staff.’ Mae’r cynigion hefyd yn cyfeirio at bryderon moesegol ynghylch darpariaeth er elw, gan gynnwys adborth gan blant a phobl ifanc am dderbyn gofal gan sefydliadau er elw.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gasglu barn arbenigwyr ar y cynigion polisi hyn, yn benodol mewn perthynas â phedwar cwestiwn:
- Sut mae’r cymhelliad elw yn dylanwadu ar ansawdd a natur y ddarpariaeth gofal a phrofiad a chanlyniadau plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal?
- I ba raddau a sut y byddai’r cynnig yn cyfrannu at gynaliadwyedd a sefydlogrwydd y ddarpariaeth ac at gynnal neu wella canlyniadau?
- I ba raddau y gellir ystyried y cynnig yn fesur cymesur? ac,
- A yw’r cynnig yn angenrheidiol i sicrhau cynaliadwyedd a sefydlogrwydd gwasanaethau i blant sy’n derbyn gofal ac i gynnal neu i wella eu canlyniadau?
Ym mis Ionawr 2024, cynhaliodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru 16 o gyfweliadau ag amryw o arbenigwyr, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r byd academaidd, y trydydd sector, ac unigolion a sefydliadau sy’n deall y cefndir o ran darparu gofal cymdeithasol i blant. Nid oedd barn y rheini a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â chomisiynu, prynu a darparu gofal wedi cael eu cynnwys, gan fod Llywodraeth Cymru o’r farn bod dealltwriaeth dda o’r safbwyntiau hyn eisoes, bod ganddynt ran ym maes datblygu polisi a’u bod yn llywio’r datblygiadau hynny.
Gwelsom fod y rhai a gyfwelwyd yn cytuno bod y system bresennol yn gamweithredol, a bod problemau mawr a hirsefydlog o ran digonolrwydd ac ansawdd y ddarpariaeth sy’n effeithio ar ganlyniadau plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, roedd safbwyntiau gwahanol ynghylch y rôl y mae elw’n ei chwarae yn hyn o beth, gyda rhai’n tybio ei fod yn symptom o’r camweithredu presennol, ac eraill yn ei ystyried fel achos y camweithredu hwnnw.
Roedd y ffordd yr oedd y rhai a gafodd eu cyfweld yn dehongli bwriad y polisi hefyd yn amrywio, a ph’un ai mai ei fwriad oedd targedu gwneud gormod o elw, neu bob math o elw. Roedd gwahaniaeth barn hefyd ynghylch a oedd angen cael gwared ar yr holl elw er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd y ddarpariaeth.
Roedd consensws na fydd dileu elw yn mynd i’r afael yn ddigonol â’r materion cyfredol sy’n ymwneud â digonolrwydd ac ansawdd darpariaeth ar ei ben ei hun, a bod yn rhaid ei gynnwys fel rhan o agenda trawsnewid ehangach. Er mwyn mynd i’r afael â’r materion presennol, awgrymodd y mwyafrif o’r rhai a gyfwelwyd fod angen buddsoddi yn y sector ochr yn ochr â’r cynigion.
Roedd pawb a gafodd eu cyfweld wedi codi pryderon ynghylch y broses weithredu, a’r risg ei bod yn amharu ar y ddarpariaeth sydd eisoes yn fregus. Gellid disgrifio hyn fel risg i sefydlogrwydd yn y tymor byr a’r tymor canolig, gyda chanlyniadau a allai fod yn niweidiol i blant a phobl ifanc mewn gofal.