Adolygiad o dystiolaeth ar lesiant a deilliannau addysgol gwahanol ddulliau o gynorthwyo plant a phobl ifanc traws

Mae Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru’n cynnwys ymrwymiad i ddarparu canllaw cenedlaethol priodol i ysgolion ac awdurdodau lleol i gynorthwyo plant a phobl ifanc traws mewn lleoliadau addysg.

I helpu gyda datblygiad y canllaw hwn, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) edrych ar y sylfaen dystiolaeth bresennol ar lesiant a deilliannau addysgol gwahanol ddulliau o gynorthwyo plant a phobl ifanc traws mewn lleoliadau addysg, gan gynnwys tystiolaeth ar ddeilliannau i gymheiriaid plant a phobl ifanc traws.

Comisiynwyd Rapid Research and Appraisal Lab (RREAL) yn University College London gennym i gynnal adolygiad cyflym o’r dystiolaeth a oedd yn ymdrin â phedwar cwestiwn yn benodol:

  1. Beth yw’r anghenion a’r canlyniadau llesiant i blant a phobl ifanc traws mewn lleoliadau addysg?
  2. Beth yw anghenion a deilliannau addysgol plant a phobl ifanc traws mewn lleoliadau addysg?
  3. Beth yw effaith polisi a dulliau ymarfer ar drawsnewid cymdeithasol mewn lleoliadau addysg ar blant a phobl ifanc traws o ran eu llesiant a’u deilliannau dysgu?
  4. Beth yw effaith polisi a dulliau ymarfer ar drawsnewid cymdeithasol mewn lleoliadau addysg ar gymheiriaid plant a phobl ifanc traws o ran eu llesiant a’u deilliannau dysgu?

Heblaw am y cwestiynau ymchwil penodol hyn ar effaith polisi ac ymarfer ysgolion, roedd cwestiynau am effaith bosibl trawsnewid cymdeithasol ei hun ar ddeilliannau tymor hir plant a phobl ifanc y tu hwnt i gwmpas yr adolygiad hwn.

Defnyddiodd RREAL ddull chwilio ac asesu ansawdd strwythuredig a thrylwyr sefydledig i ganfod, arfarnu, a chyfuno tystiolaeth gyhoeddedig bresennol. Hefyd, mae canlyniadau’r adolygiad wedi bod drwy broses adolygu gan gymheiriaid gan bedwar o arbenigwyr pwnc a methodolegol gyda safbwyntiau a phersbectifau amrywiol ar gwestiynau’r ymchwil.

Mae rhai o brif ganfyddiadau’r adolygiad yn cynnwys:

  • Roedd plant traws yn fwy tebygol o ddangos eu bod yn profi canlyniadau llesiant gwaeth na’u cymheiriaid cisryweddol, gan gynnwys mwy o erledigaeth o blith cymheiriaid, lefel is o ymdeimlad o berthyn i’r ysgol ac iechyd meddwl gwaeth.
  • Roedd plant traws yn fwy tebygol o ddangos eu bod yn profi canlyniadau addysgol gwaeth na’u cymheiriaid cisryweddol, gan gynnwys perfformiad addysgol gwaeth, presenoldeb gwaeth a llai o ddyhead i gyfranogi mewn addysg ôl-uwchradd.
  • Nododd plant traws amrywiaeth o anghenion llesiant ac addysgol, gan gynnwys parodrwydd staff i fynd i’r afael ‘bwlio trawsffobig’, hinsawdd gefnogol yn yr ysgol, a chwricwlwm cynhwysol.
  • Nid oedd llawer o dystiolaeth o werthuso dulliau polisi ac ymarfer penodol i gynorthwyo plant a phobl ifanc traws mewn lleoliadau addysg. Fodd bynnag, nododd yr adolygiad sawl astudiaeth a oedd yn edrych ar y perthnasoedd rhwng ffactorau ysgol ehangach a llesiant a deilliannau addysgol plant a phobl ifanc traws. Mae’r dystiolaeth hon yn cynnwys dangosyddion rhagarweiniol fod dulliau polisi ac ymarfer ‘cadarnhaol’ – er enghraifft, rhai sy’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc traws ddefnyddio enw a rhagenw o’u dewis yn yr ysgol, neu wisgo dillad neu steil gwallt sy’n cyd-fynd â’r rhywedd maent wedi’u bennu iddynt eu hunain – yn gallu chwarae rhan mewn nifer o ffactorau ysgol ehangach sy’n gysylltiedig â gwella llesiant a deilliannau addysgol i blant a phobl ifanc traws.

Nododd yr arolwg hefyd angen am ragor o dystiolaeth:

  • Sefydlu perthnasoedd achosol sylfaenol rhwng ffactorau ysgol a deilliannau myfyrwyr traws. Mae hyn am fod astudiaethau meintiol a nodwyd yn yr adolygiad yn defnyddio dyluniadau croestoriadol, sy’n golygu er bod cysylltiadau sy’n arwyddocaol yn ystadegol wedi’u canfod, na ellid dangos achosiaeth;
  • Edrych ar effeithiau gwahanol bolisïau a dulliau ymarfer ar gymheiriaid myfyrwyr traws; ac
  • Edrych ar brofiadau plant a phobl ifanc traws anabl, a phlant a phobl ifanc traws ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Bydd canfyddiadau’r adolygiad yn cael eu hystyried ochr yn ochr ag ymgysylltiad â rhanddeiliaid a thystiolaeth ehangach i lywio canllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol i helpu plant a phobl ifanc traws mewn lleoliadau addysg.