Croeso i’n hadolygiad o rai o uchafbwyntiau gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn 2022.
Rydym wedi mwynhau deuddeg mis toreithiog arall ac rydym yn ddiolchgar am y cyfleoedd a gawsom i weithio gyda Gweinidogion, arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus a chydweithwyr yn y gwasanaeth sifil ar rai o’r heriau polisi pwysicaf sy’n wynebu Cymru. Rydym wedi parhau i geisio cryfhau’r cysylltiadau rhwng llunwyr polisïau ac academyddion,
i wella’r ddealltwriaeth o sut i gynyddu’r rôl sydd gan dystiolaeth wrth lunio polisïau, ac i feithrin y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr polisi.
Mae llawer o’n gwaith wedi canolbwyntio ar drechu tlodi ac allgáu cymdeithasol, sydd wedi bod yn bwysicach fyth yn wyneb yr argyfwng costau byw. Gwnaethom gyhoeddi cyfanswm o 18 o adroddiadau ar y pwnc hwn, yn ymdrin â materion allweddol gan gynnwys:
- Tueddiadau o ran tlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru;
- Profiad bywyd o dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru;
- Beth sy’n creu strategaeth wrthdlodi effeithiol; a
- Thystiolaeth ryngwladol o’r hyn sy’n gweithio wrth lunio polisïau i fynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol.
Mae’r heriau polisi eraill y buom yn gweithio arnynt dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:
- Yr argyfwng gofal cymdeithasol yng Nghymru;
- Lles cymunedol;
- Datgarboneiddio economi Cymru; a
- Diwygio etholiadol.
Mae ein hadroddiadau ar y pynciau hyn a phynciau eraill ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefan, ynghyd ag ystod o sylwebaeth, papurau briffio, a phodlediadau. Gobeithiwn y byddwch yn eu mwynhau ac yn eu hystyried yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol.
Rydym am ddiolch i’n cyllidwyr – y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd – am eu cefnogaeth barhaus. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’n Grŵp Cynghori a’n Grŵp Cyfeirio Gwasanaethau Cyhoeddus am eu cymorth a’u cyngor parhaus. Ac rydym yn cydnabod y cyfraniadau rhagorol a wnaed gan yr arbenigwyr niferus, sefydliadau ymchwil a Chanolfannau What Works eraill y buom yn gweithio gyda nhw yn 2022 i ddarparu tystiolaeth annibynnol awdurdodol i lunwyr polisïau ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, er mwyn helpu i lywio’r penderfyniadau a’r dewisiadau y mae’n rhaid iddynt eu gwneud.