Mae’r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya ar ffyrdd preswyl yng Nghymru yn rhan o gyfres o fesurau i hybu cymunedau ‘hawdd byw ynddynt’. Mae cyfyngiadau 20mya wedi’u gweithredu mewn sawl lle yn y DU, ond byth ar raddfa genedlaethol. Bydd angen newid sylweddol mewn ymddygiad gyrwyr er mwyn i’r cyfyngiad gael yr effaith ddymunol.
Mae ein hadroddiad yn bwriadu mynd i’r afael â dau brif gwestiwn:
- Pa ymyriadau ymddygiadol penodol all gael eu gweithredu i annog gyrwyr i gydymffurfio â’r cyfyngiadau cyflymder 20mya mewn ardaloedd preswyl; a
- a oes demograffeg penodol, nodweddion cymunedol neu ffactorau eraill ddylid fod yn rhan o’r dull cam wrth gam?
Noda’r adroddiad bod y rhan fwyaf o yrwyr yn honni eu bod yn cefnogi syniad y cyfyngiadau cyflymder 20mya, ond nid yw llawer yn cydymffurfio mewn gwirionedd. Bydd angen cefnogaeth cydgysylltiedig gan arweinwyr o bob sector er mwyn cyflawni’r newid diwylliant gofynnol.