Mae gan Liz Clutton fwy na dau ddegawd o brofiad o gyfathrebu strategol a rheoli cyfryngau, gan weithio gyda chyfryngau newyddion a chwaraeon yng Nghymru, y DU ac Ewrop, cyrff llywodraethu chwaraeon a darlledwyr. Gan weithio’n bennaf ym maes rygbi yn Ewrop a Chymru cyn ymuno â WCPP yn 2023, bu Liz yn arwain y gwaith o reoli’r cyfryngau a chreu cynnwys ar gyfer sawl tîm rygbi rhyngwladol fel rheolwr cyfathrebu URC.
Hi fu’n arwain y gwaith o gyfathrebu ynghylch pontio Menywod Cymru i raglen perfformiad proffesiynol rhwng 2019 a 2023, a oedd yn cynnwys cynhyrchu sylw eang i raglenni iechyd menywod arloesol a rheoli darllediadau dogfen yn olrhain taith gêm y merched.
Bu Liz hefyd yn olygydd rhaglen diwrnod gêm ryngwladol URC am fwy na deng mlynedd ac arweiniodd y gwaith o gyfathrebu nifer o fentrau rygbi cymunedol gan gynnwys strategaeth gynhwysiant gyntaf URC, oedd yn cyflwyno cyfleoedd arloesol ar gyfer rygbi anabledd a gallu cymysg ledled Cymru.
Cyn ymuno ag Undeb Rygbi Cymru yn 2004, roedd Liz wedi’i lleoli yn Toulouse, yn swyddog cyfathrebu i Asiantaeth Chwaraeon Westgate, ac yn cysylltu â chlybiau a chyfryngau Ffrainc a’r Eidal ar ran cystadlaethau rygbi Ewropeaidd.
Mae gan Liz BA Anrhydedd mewn Ffrangeg ac Eidaleg o Brifysgol Caerdydd.