Pam mae angen i Gymru gael dull newydd o fynd i’r afael ag unigrwydd

Mae unigrwydd yn ddrwg i ni. Mae’r ffaith bod Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi datgan yn 2023 bod unigrwydd yn fygythiad difrifol i iechyd byd-eang yn dangos bod unigrwydd mor niweidiol, oherwydd bod tystiolaeth gynyddol a brawychus yn dangos pa mor beryglus yw unigrwydd i iechyd a llesiant pobl. Mae ymchwil yn dangos bod unigrwydd yn gallu eich gwneud chi 50% yn fwy tebygol o gael dementia, 32% yn fwy tebygol o gael strôc, 29% yn fwy tebygol o ddioddef clefyd y galon, a hyd yn oed 26% yn fwy tebygol o ddioddef marwolaeth gynnar. Er mwyn rhoi meincnod clir, mae Llawfeddygon Cyffredinol yr Unol Daleithiau yn tynnu sylw at y ffaith bod datgysylltiad cymdeithasol yn cael yr un effaith ar iechyd ag ysmygu 15 o sigaréts y dydd.

Mae nifer y bobl ledled y DU sy’n dweud eu bod nhw’n unig drwy’r amser wedi parhau i gynyddu ers 2020, ac mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch pa mor dda mae ein dulliau presennol o ymdrin ag unigrwydd yn gweithio. Ydyn ni’n darparu’r adnoddau cyfyngedig sydd gennym yn y ffordd iawn?

Yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu

Mae ein hadolygiad rhyngwladol o anghydraddoldebau unigrwydd yn edrych ar unigrwydd mewn goleuni newydd, ac mae’n dadlau y gellid gwario ar adnoddau cyhoeddus cyfyngedig yn well pe bai unigrwydd yn cael ei ddeall ac yn cael sylw drwy lygaid anghydraddoldebau. Y rheswm am hyn yw nad yw unigrwydd yn cael ei rannu’n gyfartal. Mae rhai grwpiau o bobl yn fwy tebygol o fod yn unig nag eraill. Mae’r adolygiad yn mapio’r gwahanol grwpiau ar y cyrion, yn nodi’r gwahanol rwystrau sy’n wynebu’r grwpiau hyn rhag gallu perthyn, ac yn arwydd o’r angen am ddull newydd o oresgyn rhwystrau presennol ac atal unigrwydd yn y dyfodol.

Mae’r adolygiad yn tynnu sylw at sut mae grwpiau mewn cymdeithas sydd eisoes yn dioddef o anghydraddoldebau cymdeithasol, allgáu cymdeithasol, a gwahaniaethu – fel y rheini sydd ag anableddau, y rheini sy’n rhan o’r cymunedau LHDTC+, ymfudwyr, y rheini sydd mewn caledi economaidd ac, mewn gwirionedd, y rheini sydd mewn unrhyw ffordd yn wahanol i’r mwyafrif – yn fwy tebygol o ddioddef unigrwydd. Mae’r tebygolrwydd hwnnw’n cynyddu rhagor pan fydd sawl categori’n berthnasol (er enghraifft, ymfudwr hŷn sydd ag anableddau). Bydd bylchau’n parhau i ehangu os na fyddwn ni’n rhoi sylw gwirioneddol i’r ddealltwriaeth newydd hon o unigrwydd ac yn ceisio mynd i’r afael â hyn mewn ffordd wahanol.

Ffigur 1: ffactorau uniongyrchol ac anuniongyrchol sy’n esbonio unigrwydd

Pam mae’r anghydraddoldebau hyn yn datblygu?

Mae’r adolygiad yn dangos sut mae pobl o grwpiau ar y cyrion mewn mwy o berygl o unigrwydd, a hynny’n rhannol oherwydd y ffordd y maen nhw’n cael eu trin gan gymdeithas. Mae rhwystrau gweladwy ac anweledig yn rhwystro pobl rhag teimlo eu bod nhw’n perthyn. Er enghraifft, gall pobl o’r grwpiau sydd wedi’u mapio yn yr adolygiad ddioddef stigma, bwlio ac aflonyddu bob dydd, ac mae hyn yn gallu gwneud iddyn nhw deimlo nad ydyn nhw’n perthyn, gan eu harwain at risg uwch o unigrwydd. Mae deinameg llai amlwg hefyd, fel pobl yn teimlo eu bod yn wahanol i’r bobl eraill sydd o’u cwmpas. Er enghraifft, wrth ymgysylltu’n ddiweddar ynglŷn â’n canfyddiadau, dywedodd unigolyn niwrowahanol:

“Os ydych chi’n niwroamrywiol, rydych chi’n edrych yn ‘normal’. Mae tybiaethau’n cael eu gwneud am lefel eich dealltwriaeth. O ran cael sgyrsiau cymdeithasol yn y gwaith, mae pobl yn tueddu i ddefnyddio ystyron cudd ac mae’n hawdd i berson niwroamrywiol ‘gamddeall y sefyllfa’. Yna, rydych chi’n cael y label o fod yn “rhyfedd” ac rydych chi’n cael eich eithrio o sgyrsiau cymdeithasol. Dydych chi ddim yn cael bod yn rhan o’r sgyrsiau. Mae’n waith caled ymgysylltu a bod yn gymdeithasol.”

Ffigur 2: Chwe Ffactor Strwythol sy’n Debygol o Ddylanwadu ar Anghydraddoldebau Unigrwydd

Gall graffeg allweddol yn yr adolygiad fod yn fframweithiau i lunwyr polisïau ac ymarferwyr fynd i’r afael ag unigrwydd drwy lens anghydraddoldebau. Mae Ffigur 1 yn dangos sut mae allgáu rhyngbersonol (fel stigma neu fwlio) a’r gwahaniaeth o gymdeithas ddominyddol yn gallu arwain yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol at unigrwydd. Mae Ffigur 2 yn crynhoi’r chwe ffactor strwythurol sy’n gallu cynyddu unigrwydd a nodwyd gan yr adolygiad. Gyda’i gilydd, mae modd eu defnyddio i nodi’n well y prif rwystrau sy’n atal pobl a lleoedd rhag perthyn, ac i roi llais i’r bobl sydd â phrofiadau uniongyrchol.

Sut gallwn ni liniaru yn erbyn yr anghydraddoldebau hyn?

Yn ymarferol, mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran unigrwydd yn golygu ceisio dealltwriaeth ddyfnach o’r canlynol: beth sy’n rhwystro rhai grwpiau rhag cysylltu’n ystyrlon yn gymdeithasol? Bydd yr ateb yn edrych yn wahanol ar gyfer gwahanol grwpiau a lleoedd, ond mae’r cwestiwn yn aros yr un fath. Er bod hyn yn swnio’n syml, byddai hyn yn newid radical o ddulliau traddodiadol o ymdrin ag unigrwydd, sy’n ystyried unigrwydd fel problem gydag unigolion (fel sgiliau cymdeithasol gwael, hwyliau isel, neu ddiffyg ymgysylltu cymdeithasol).

O safbwynt polisi, mae Cymru mewn sefyllfa dda i lywio cwrs newydd. Mae gan Gymru weledigaethau beiddgar eisoes i wella llesiant a chydraddoldeb yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Cymru Iachach, ac amrywiol gynlluniau gweithredu sy’n canolbwyntio ar gydraddoldeb ar Wrth-hiliaeth ac Anabledd. Mae’r rhain i gyd yn rhoi cyfeiriad ar sut i lywio tuag at ddyfodol mwy disglair. Fodd bynnag, mae angen i Gymru ddefnyddio unigrwydd fel arwydd bod rhai rhwystrau rhag cysylltiad cymdeithasol yn dal i sefyll yn ffordd pobl, ac mae angen cymryd camau i fynd i’r afael â hyn wrth wraidd y broblem.

Mae ein hadroddiad yn dangos yn glir nad bai unigolion yw prif achos unigrwydd. Mae edrych ar un ochr y ddadl yn gallu stigmateiddio ac ynysu’r union bobl rydyn ni eisiau eu cynnwys, yn enwedig os ydyn ni’n gwneud rhagdybiaethau amdanyn nhw y tu ôl i’w cefnau nhw.

Casgliad

Mae’r newid yn ein dull gweithredu yn seiliedig ar y dystiolaeth, a gall hyn wella ac ategu at ddulliau traddodiadol a allai fod yn gweithio i rai pobl. Mae ein dull gweithredu’n ymwneud â derbyn nad yw unigrwydd wedi’i ddosbarthu’n gyfartal mewn cymdeithas, felly mae angen i ni edrych yn ehangach i nodi a chael gwared ar y rhwystrau strwythurol a chymdeithasol sy’n cadw pobl a grwpiau rhag cael cysylltiad. Mae’r dystiolaeth yn dangos yn glir mai grwpiau sydd eisoes ar y cyrion ac sy’n cael eu gwahaniaethu sydd fwyaf tebygol o ddioddef unigrwydd heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Mae dulliau traddodiadol o ymdrin ag unigrwydd yn ddulliau unigol, ac nid ydynt yn mynd yn ddigon pell i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a’u lliniaru. Mae angen i ni feddwl, gweithredu a defnyddio mwy a mwy o adnoddau ar wraidd y broblem er mwyn lleihau nifer y bobl sydd bob amser yn teimlo’n unig.

Os ydyn ni’n canolbwyntio ar ‘unigrwydd’ fel problem i’w datrys heb archwilio pam mae rhai pobl a grwpiau’n fwy tebygol o fod yn unig nag eraill, bydd Cymru’n methu â chyflawni ei gweledigaeth flaengar, ac yn peryglu achosi rhagor o broblemau i’r union bobl y maen nhw’n ceisio eu cynnwys. Mae unigrwydd yn broblem sy’n ymwneud â llwyddiant llawer o bolisïau blaengar Cymru. Bydd gweithredu ar anghydraddoldebau unigrwydd yn gwneud Cymru’n iachach ac yn fwy cynhwysol mewn cymunedau mwy cydlynol.

Ein cyfrifoldeb ni i gyd yw gwneud Cymru’n lle mae pawb yn teimlo eu bod nhw’n perthyn. Rydyn ni wrthi’n rhoi cynnig ar adnoddau ac yn eu profi er mwyn rhoi’r dystiolaeth hon ar waith i wella canlyniadau yng Nghymru.  Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith yn y maes hwn, cysylltwch ag info@wcpp.org.uk