Huw Morris

Teitl swydd Athro Anrhydeddus, Coleg Prifysgol Llundain

Mae Huw Morris yn Athro Anrhydeddus mewn Addysg Drydyddol yn y Sefydliad Addysg, Cyfadran Addysg a Chymdeithas UCL lle mae ar secondiad o Lywodraeth Cymru. Cyn y rôl hon, bu’n Gyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes am naw mlynedd yn goruchwylio amrywiol ddiwygiadau i’r system cyllid myfyrwyr, y trefniadau llywodraethu ar gyfer addysg ôl-orfodol a datblygu prentisiaethau.

Cyn y rôl hon, bu’n academydd am bum mlynedd ar hugain, gan symud o swydd cynorthwyydd ymchwil i fod yn ddarlithydd, yn ddeon cyswllt, yn ddirprwy is-ganghellor a deon ac yn ddirprwy is-ganghellor yng Ngholeg Imperial, Swydd Bedford, Kingston, UWE, Metropolitan Manceinion a Phrifysgol Salford.

Mae’n awdur ar dri llyfr ac ar amrywiol gyfnodolion a chyhoeddiadau eraill ym maes cymdeithaseg addysg a busnes.

Roedd Huw yn aelod o Banel Addysg REF2021 ac mae’n aelod o Banel Dyfarniadau Grantiau ESRC yn ogystal ag yn ymddiriedolwr i Sefydliad Uniondeb Ymchwil y DU (UKRIO).

https://profiles.ucl.ac.uk/91453-huw-morris

Tagiau