Llywio dyfodol ffermio: Sut y gall ffermwyr droi’n ‘Wyrdd’ os ydynt yn y ‘Coch?’

Yn dilyn Brexit a chyflwyno Polisi Amaethyddol Domestig y DU, mae’r sector ffermio yn y DU yn wynebu ansicrwydd sylweddol.  Mae’r blog hwn yn trafod rhai o effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y newidiadau hyn yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar y broblem gynyddol o dlodi ymhlith aelwydydd ffermio.

Mae’r polisi amaethyddiaeth yn dilyn Brexit yn creu llawer o ansicrwydd economaidd i lawer o ffermwyr y DU.  Mae pwysau cynyddol gan lywodraethau i gyflawni nodau cynaliadwyedd amgylcheddol rhyngwladol a chenedlaethol, er enghraifft cyflawni sero net, yn creu newidiadau mawr yn y diwydiant.  Mae’r newidiadau polisi hyn yn arwain at anfodlonrwydd cynyddol ymhlith rhai ffermwyr, sy’n arwain at newidiadau i arferion ffermio, pryderon ynglŷn â hyfywedd economaidd eu busnes, a chynnydd mewn biwrocratiaeth.  Mae ffermwyr Cymru yn ymuno â’u cyfoedion yn yr Iseldiroedd, Ffrainc a’r Alban yn mynegi eu pryderon drwy brotestiadau ffermwyr.

Ffermio ar ôl Brexit yng Nghymru

Mae diddymiad Cynllun y Taliad Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd, a oedd yn cyfrannu’n sylweddol at incwm ffermydd ac yn ffactor sefydlogi ar gyfer marchnadoedd ansicr cynnyrch amaethyddol, yn cyflwyno bygythiad sylweddol i sefydlogrwydd ariannol ffermwyr Cymru.  Mae cymorthdaliadau o’r fath, mewn rhai achosion, yn cynrychioli hyd at 90% o Incwm Busnes Fferm blynyddol ffermwyr. Mae Cynllun Cynefin newydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi ffermwyr i ddefnyddio arferion cynaliadwy i reoli eu tir.  Fodd bynnag, nifer gyfyngedig sydd wedi manteisio ar hyn oherwydd taliadau cyfyngedig fesul hectar a’r effeithiau sylweddol ar reoli tir a chynhyrchiant posibl ffermydd.

Yn debyg i’r polisi ffermio yn Lloegr, cyflwynir y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru yn 2025, gan ddisodli Cynllun y Taliad Sylfaenol yr UE (BPS). Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn parhau fel y cynllun gwirfoddol sydd eisoes mewn grym, gan ddod yn brif ffynhonnell cymorth i ffermwyr gan y llywodraeth ac yn biler canolog o gefnogaeth ar gyfer ffermydd prif ffrwd yng Nghymru ac, fel y mae’r enw’n awgrymu, bydd yn ceisio hyrwyddo arferion ffermio ‘cynaliadwy’ drwy ddyrannu’r cymhorthdal hwn.  Fodd bynnag, mae lefel y gefnogaeth ariannol a fydd ar gael yn y dyfodol o dan y cynllun hwn yn ansicr.

Mae pryder y gallai trawsnewid i gynlluniau newydd, gan ddisodli BPS ddwysáu tlodi gwledig a chaledi ymhlith aelwydydd sy’n ffermio.  Gallai hyn arwain at golli ffermwyr o’r sector, a gallai olygu colli’r sgiliau rheoli tir sydd eu hangen i wynebu’r heriau o’n blaenau.

Ffermio a sero net yng Nghymru

Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn helpu Llywodraeth y DU i gyflawni ei chynlluniau amgylcheddol ehangach o gyflawni sero net erbyn 2050.  Yn wir, mae gwahanol agweddau at gyflawni sero net yn cael eu cynnig. Fodd bynnag, mae pryderon dilys (yn ein barn ni) ynglŷn â’r cynlluniau sero net a’r effeithiau ar y diwydiant ffermio.  Mae rhai o’r pryderon hyn wedi ffurfio’r sail i brotestiadau gan ffermwyr Cymru. Yn wir, mae nifer gynyddol o ffermydd yng Nghymru yn cael eu prynu gan gwmnïau sy’n ceisio gwrthbwyso eu hallyriadau carbon drwy blannu coed.  Mae mentrau o’r fath wedi ysgogi undebau ffermio yng Nghymru i ymateb drwy wneud galwad i weithredu ar fasnachu carbon  i sicrhau bod ffermwyr Cymru – a’r sgiliau sydd ganddynt i’w cynnig – yn rhan o’r ateb. Yn wir, mae’r gwaith i wrthbwyso carbon ar dir ffrwythlon, fel y gwelir ym Mhowys, Canolbarth Cymru, sy’n aml yn cael ei ysgogi gan fuddiannau corfforaethol mawr, nid yn unig yn effeithio ar bris a dyfodol cynhyrchu bwyd ar dir yng Nghymru, ond gallai hefyd effeithio ar fioamrywiaeth pridd, cyrsiau dŵr, a bioamrywiaeth tirweddau. Yr hyn sy’n gyfrifol am hyn yw’r tueddiadau arwyddocaol o blannu coetiroedd sy’n llawn rhywogaethau conwydd, sy’n llai gwerthfawr ar gyfer amrywiaeth bywyd gwyllt.  Gall cyfaddawdu economaidd a chymdeithasol ddigwydd pan fydd gormod o bwysau ar leihau a gwrthbwyso carbon.

Mae yna risg bosibl i gynhyrchiant bwyd hefyd os bydd ardaloedd mawr o dir yn cael eu defnyddio at ddibenion dad-ddofi.  Yn ogystal, mae ansicrwydd sylweddol ar lefel ffermydd ynglŷn â’r hyn mae’r llywodraeth yn ei ddisgwyl gan ffermwyr ynglŷn â sero net.  Oherwydd bod y strategaeth sero net yn cael ei mesur ar sail allyriadau tiriogaethol, mae pryderon yn codi y gallai cynhyrchiant bwyd gael ei allanoli i wledydd eraill.  Gallai hyn olygu bod bwyd yn cael ei brynu am bris rhatach gan ffermwyr lleol, a gallai hefyd danseilio safonau lles anifeiliaid a diogelu’r amgylchedd.  Am nad yw allyriadau o allforion yn cael eu mesur o dan y raddfa bresennol, gallai hyn arwain at ‘allanoli’ allyriadau i bob pwrpas, yn hytrach na’u lleihau ar lefel fyd-eang.

Ffactorau Economaidd

Mae amaethyddiaeth yn hollbwysig i economi, cymdeithas ac amgylchedd Cymru, gan gyflogi tua 58,300 o bobl. Gyda 84% o dir Cymru’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, a hynny mewn ‘Ardaloedd Llai Ffafriol’ yn bennaf, sy’n addas ar gyfer ffermio da byw mynydd ac ucheldir, mae’r sector yn agored iawn i niwed yn sgil cael gwared ar y cymorthdaliadau. Mae costau mewnbwn cynyddol, sy’n gysylltiedig â’r argyfwng costau byw, y gostyngiad mewn cymorthdaliadau i ffermydd a phrisiau anwadal y farchnad yn golygu bod rhedeg busnes fferm yn fenter heriol.

Yn wir, mewn ymateb i heriau cynyddol o ran proffidioldeb yn y sector, mae llawer o ffermwyr yn ymrwymo mwy o amser i gynyddu eu hincwm drwy weithrediadau presennol a mentrau arallgyfeirio newydd ar eu ffermydd.  Mae cyfleoedd arallgyfeirio i werthu’n uniongyrchol, amaeth-dwristiaeth ac ynni adnewyddadwy yn cyflwyno llwybrau proffidiol posibl i lawer o ffermwyr.  Fodd bynnag, mae’r gallu i gael mynediad at gyngor a chefnogaeth ar gyfer mentrau entrepreneuraidd o’r fath yn aml yn cyfyngu ar gyfleoedd llawer o ffermwyr.

Ffermio yng Nghymru: Cyfraniadau Cymdeithasol ac Amgylcheddol

Mae ffermio yng Nghymru yn hanfodol o safbwynt cymdeithasol a diwylliannol, gyda llawer o deuluoedd wedi ffermio’r un tir ers cenedlaethau.  Mae ffermio yng Nghymru yn cynhyrchu nwyddau cyhoeddus allweddol ac yn cefnogi ecosystemau diwylliannol, gan gynnwys y gwaith o gynnal a chadw tirweddau diwylliannol byw o ddydd i ddydd yng Nghymru.  Gwelir hyn yn amlwg yn y tir sy’n cael ei ffermio ym Mharciau Cenedlaethol Cymru ac mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Mae arferion ffermio traddodiadol, er enghraifft defnyddio cŵn gweithio, mynediad a rennir a bugeilio’r ‘cynefin mynydd’, a’r arbenigedd o gynnal a chadw a defnyddio hen beiriannau, nid yn unig yn arferion ymarferol, maent hefyd yn ychwanegu cyfoeth diwylliannol i gefn gwlad Cymru.  Mae’r arferion treftadaeth hyn, o ffermwyr sy’n dewis gweithio gyda chŵn yn hytrach na pheiriannau i gynaeafu gwair yn y ffordd draddodiadol ac arddangos eu crefftau mewn sioeau a ffeiriau pentref lleol, yn rhan annatod o’r ardaloedd o gefn gwlad delfrydol a werthfawrogir gan y cyhoedd.  Dylai cynlluniau newydd ddiogelu rhag colli’r traddodiadau a’r gweithgareddau gwerthfawr a’u harwyddocâd diwylliannol.

Fodd bynnag, mae ansefydlogrwydd ariannol yn cyflwyno risg o ddwysáu tlodi ymhlith teuluoedd sy’n ffermio, gan orfodi ffermwyr i adael y sector ac, wrth wneud hynny, erydu gwead cymdeithasol Cymru wledig.

Yn wir, mae llawer o ffermydd yn cyfrannu at fioamrywiaeth ac amrywiaeth cyfoethog cefn gwlad Cymru, trwy warchod nodweddion tirwedd fel waliau sychion, ffermdai ac adeiladau fferm traddodiadol, a diogelu da byw brodorol fel defaid Mynydd Cymreig Torddu a Thorwen a defaid Mynydd Cymreig Banwen.  Mae’r bridiau hyn yn ffynnu ar lystyfiant naturiol sy’n cael ei reoli’n dda.

Er bod systemau bwyd rhyngwladol yn cynrychioli tua 31% o allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi’u creu gan pobl, mae ffermio mynydd ac ucheldir yng Nghymru yn cynnig buddiannau amgylcheddol niferus.  Mae’r arferion hyn yn aml yn creu llai o allyriadau ac yn cynnwys da byw sy’n porthi ar laswellt ar systemau amaethyddol helaeth yn bennaf (yn hytrach na systemau dwys dan do). Gellir dadlau bod llawer o ffermydd Cymru’n alinio’n dda ag agweddau ffermio o blaid yr amgylchedd. Felly, mae colli ffermwyr yn golygu colli eu cyfraniadau amgylcheddol.

Yn ogystal, gallai rheoliadau amgylcheddol newydd osod beichiau ariannol sylweddol ar ffermwyr. Er y gall rhai gweithredoedd, fel rhai arferion amaethyddol ailwladychu gynnig manteision economaidd ac amgylcheddol, mae gweithredoedd eraill yn cynnwys cyfaddawdau economaidd a chymdeithasol.  Dylai llunwyr polisi gwledig ddadansoddi’r canlyniadau anfwriadol posibl a darparu iawndal priodol i ffermwyr am golledion economaidd.

Ar ben hynny, mae’n debygol y bydd angen cymorth ac arweiniad wedi’i dargedu ar ffermwyr wrth drosglwyddo i gynlluniau newydd, yn enwedig os ydynt wedi bod yn ymwneud â gweithgareddau cynhyrchu bwyd yn hanesyddol. I lawer, cynhyrchydd bwyd yw unig hunaniaeth y ffermwr. Eto i gyd, mae’r cynnydd mewn gwyrddu polisi amaethyddol yn herio’r hunaniaeth hon. Er mwyn cyflawni’r mentrau cynaliadwyedd amgylcheddol hyn mae angen buddsoddiad. Nid yn unig sicrhau cefnogaeth ffermwyr ond hefyd yn ariannol. Heb fusnes fferm proffidiol, mae ffermwyr yn annhebygol o wneud y newid gwyrdd. Ni all ffermwyr droi’n wyrdd os ydynt yn y coch.

Isod gwelwn rai o’r ffyrdd y gellir cefnogi ffermwyr Cymru drwy’r trawsnewidiad polisi gwyrdd hwn.

Ffyrdd Allweddol o Gefnogi Ffermwyr Cymru: Agwedd Gyfannol

  1. Cynaliadwyedd Cytbwys yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Mae’n hanfodol bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy nid yn unig yn canolbwyntio ar nodau amgylcheddol ond hefyd yn sicrhau hyfywedd economaidd a gwead cymdeithasol cymunedau ffermio. Rhaid i iawndal ariannol dalu’n ddigonol am golled BPS ar ôl Brexit, gan atal methiant busnes wrth i ffermwyr drosglwyddo. Ni ddylai ymdrechion amgylcheddol danseilio dynameg gymdeithasol y diwydiant.  Er enghraifft, gallai plannu coed yn ormodol, er ei fod yn fuddiol i’r amgylchedd, beryglu diogelwch bwyd a lleihau’r gweithlu mewn rhai ardaloedd.
  2. Iechyd Meddwl a Chymorth Cymunedol: Gyda’r cyfraddau uchel o faterion iechyd meddwl mewn cymunedau ffermio, mae darparu cymorth yn hollbwysig, yn arbennig wrth i’r pwysau economaidd sy’n gysylltiedig â thlodi ymhlith ffermwyr ddwysau. Mae nifer o elusennau amaethyddol yng Nghymru, rhai wedi’u cefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn mynd i’r afael â’r her gynyddol gyffredin hon.
  3. Annog Arferion Ffermio Amrywiol: Dylai cynlluniau newydd wobrwyo gweithgareddau ag arwyddocâd cymdeithasol a diwylliannol, a chefnogi ffermwyr traddodiadol sy’n awyddus i ddiogelu eu hunaniaeth a’u harferion. Mae arferion fel defnyddio cŵn gwaith, a chynnal a chadw hen beiriannau, er nad ydynt y dulliau mwyaf effeithlon neu amgylcheddol gadarnhaol, yn cyfoethogi tirwedd ddiwylliannol amaethyddiaeth Cymru a dylid eu diogelu a’u hannog.  Gellid rhoi taliadau i rai ffermwyr i ddiogelu’r gweithgareddau hyn sy’n bwysig yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
  4. Sefydlu Economi Wledig Ffafriol: Mae economi leol a rhanbarthol gadarn yn hanfodol i lwyddiant ffermio. Mae darparu cymorth i fusnesau gwledig ategol — fel lladd-dai, arbenigwyr peiriannau, a chrefftwyr traddodiadol—yn hanfodol.  Mae’r endidau hyn nid yn unig yn cefnogi’r ecosystem amaethyddol maent hefyd yn cyfrannu at y gymuned a pharhad diwylliannol.  At hynny, dylid cryfhau gwasanaethau cynghori a rhwydweithiau gwledig i roi gwybodaeth leol i ffermwyr, gan eu galluogi i lywio’r newidiadau ar ôl Brexit yn effeithiol.

Safbwyntiau i gloi

Mae’r cyfnod yn dilyn Brexit yn cyflwyno heriau a chyfleoedd unigryw i ffermio yng Nghymru.

Mae mynd i’r afael â’r ansicrwydd economaidd, diogelu arferion cymdeithasol a diwylliannol a gwella cyfraniadau amgylcheddol yn hollbwysig.  Dylai ffermwyr chwarae rôl hanfodol wrth geisio cyflawni sero net; ni ddylai olygu Ffermwyr sero net.  Mae polisïau wedi’u targedu sy’n canolbwyntio ar liniaru tlodi ymhlith aelwydydd sy’n ffermio, sydd hefyd yn annog arferion cynaliadwy yn hollbwysig ar gyfer cynnal cydnerthedd a ffyniant cymunedau ffermio yng Nghymru, a chymunedau yng Nghymru yn fwy cyffredinol.