Ymchwil newydd yn nodi heriau ychwanegol a wynebir gan gymunedau ar yr ymylon.

Yn dilyn cyhoeddi Indecs Asedau Cymunedol Cymru ac Indecs Cydnerthedd Cymunedol Cymru, mae Eleri Williams, Swyddog Polisi’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (BCT), yn archwilio beth mae’r mynegeion cysylltiedig ond gwahanol hyn yn ei ddweud wrthym am yr heriau a wynebir gan gymunedau ‘Llai Cydnerth’ yng Nghymru a lle maent wedi’u lleoli.

Cyhoeddodd Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (yr Ymddiriedolaeth) waith ymchwil arloesol yn ddiweddar a oedd yn dangos bod anghydraddoldeb parhaus, yn seiliedig ar le yn bodoli ledled Cymru.  Mae’r ymchwil yn cynnwys dau indecs cysylltiedig ond gwahanol – Indecs Asedau Cymunedau Cymru (WCAI) ac Indecs Cydnerthedd Cymunedol Cymru (WCRI).

Mae’r Indecs Asedau yn pennu safle i’r holl ardaloedd bach yng Nghymru ar draws parthau cysylltedd, asedau dinesig a chymunedau sy’n ymgysylltu, i ddangos lefelau cyfunol o seilwaith cymunedol.

Mae’r ddau indecs yn mesur, yn rhoi sgôr a safle i bob ardal yng Nghymru, gan ddarparu darlun cadarn o ddarpariaeth seilwaith cymunedol a chydnerthedd cymunedol cyffredinol y wlad.  Drwy wneud hyn, mae lleoliadau â lefelau uchel o angen ar yr indecs asedau ac ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) 2019 wedi’u nodi am y tro cyntaf erioed.  Mae’r ardaloedd sydd wedi’u gosod yn 25% uchaf yr indecs cydnerthedd (safle 1-102) yn cael eu categoreiddio fel ardaloedd llai cydnerth.  Yn ei hanfod: mae’r rhain yn ardaloedd â llai o asedau cymunedol a dinesig, profir ynysigrwydd cymharol a lefelau isel o gyfranogiad, ochr yn ochr ag amddifadedd sylweddol.

Daearyddiaeth ardaloedd Llai Cydnerth
Elfen drawiadol o’r gwaith hwn yw bod llawer o ardaloedd llai cydnerth naill ai ar gyrion canolfannau trefol mawr – yr hyn a elwir gan ddaearyddwyr yn ardaloedd lled-drefol (sydd y tu hwnt i’r maestrefi) – neu ar ystadau tai a adeiladwyd ar ôl yr 2il Ryfel Byd a’r hen gymunedau glofaol.  Er bod llawer o ardaloedd llai cydnerth mewn ardaloedd lled-drefol, mae rhai mewn ardaloedd arfordirol a gwledig, gan gynnwys Aberteifi a Blaenau Ffestiniog.

Mae’r data yn awgrymu, yn gymharol, bod llawer o ardaloedd gwledig wedi llwyddo i gynnal eu hasedau dinesig, er enghraifft canolfannau cymunedol, tafarndai a siopau er eu bod yn aml yn wynebu amddifadedd economaidd a chysylltedd gwael.  Mae’r indecs yn awgrymu bod llawer o ardaloedd trefol ledled Cymru yn profi lefelau uchel o gymunedau gweithredol ac ymgysylltiedig.  I lawer o ardaloedd lled-drefol, sydd wedi’u lleoli ar gyrion canolfannau trefol mawr Cymru, mae’r gwrthwyneb yn wir – mae lefelau is o asedau ac ymgysylltiad dinesig.

Er gwaethaf yr heriau gyda chysylltedd, (sy’n cynnwys dangosyddion ar gyfer cysylltedd ffisegol, digidol a chymdeithasol) nid yw bron i draean o aelwydydd mewn ardaloedd llai cydnerth yn berchen ar gar, sy’n golygu bod trigolion yn fwy tebygol o brofi problemau yn mynd yn ôl ac ymlaen i’w gwaith a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus allweddol.  Nid yw rhai canfyddiadau’n peri syndod: mae lleoliad cymharol llawer o ardaloedd llai cydnerth ar gyrion ardaloedd trefol bron yn sicr wedi arwain at allfudiad o bobl iau, fwy medrus; ond nid yw’r canfyddiadau (a drafodir isod) sy’n gysylltiedig ag iechyd, gweithredu cymunedol a mynediad at gyllid yr un mor amlwg.

Tai mewn ardaloedd llai cydnerth

Mae cyfran uwch o bobl mewn ardaloedd llai cydnerth yn byw mewn tai a adeiladwyd ar ôl y rhyfel, gyda mwy na 30% o anheddau wedi’u hadeiladu rhwng 1945 a 1972.  Mae llai o dai wedi’u hadeiladu yn ystod y mileniwm hwn mewn ardaloedd llai cydnerth.  Gallai hyn adlewyrchu cred datblygwyr a chynllunwyr (a’r sefyllfa wirioneddol o bosibl) bod llai o bobl eisiau byw mewn ardaloedd llai cydnerth, ac wrth gwrs argaeledd cyfyngedig tir mewn rhai ardaloedd.

Yr economi a chyflogaeth mewn ardaloedd llai cydnerth

Mae incwm blynyddol cyfartalog aelwydydd mewn ardaloedd llai cydnerth fwy na £3,800 yn is na chyfartaledd cenedlaethol Cymru (ar ôl ystyried costau tai).  Mae pobl mewn ardaloedd llai cydnerth yn fwy tebygol o fyw mewn aelwydydd heb waith o gymharu â rhannau eraill o Gymru; nid yw llawer o bobl sy’n ddi-waith yn derbyn budd-daliadau ac nid yw llawer o bobl yn gweithio oherwydd materion iechyd neu rolau gofalu.

Iechyd mewn ardaloedd llai cydnerth

Gall preswylwyr ardaloedd llai cydnerth ddisgwyl byw bywydau llai iach, a byrrach o gymharu â’r cyfartaledd ledled Cymru, gyda disgwyliad oes o 76 oed a disgwyliad oes iach o 64 oed, o gymharu â 78 a 68 yn y drefn honno ledled Cymru.  Mae gan fwy nac un o bob pedwar o bobl mewn ardaloedd llai cydnerth salwch tymor hir, ac mae materion iechyd meddwl yn arbennig o gyffredin.

Canfyddiadau craidd
Mae cymunedau sydd â llai o leoedd i gyfarfod, cymuned llai ymgysylltiol a gweithgar a chysylltedd gwaeth â’r economi ehangach, yn tueddu i brofi canlyniadau cymdeithasol ac economaidd sylweddol wahanol o gymharu â chymunedau sydd â mwy o’r asedau hyn.  Nid yw’n bosibl pennu o’r data sydd ar gael a yw amddifadedd yn cyfrannu at asedau cymunedol is, neu i’r gwrthwyneb, ond mae’r data’n awgrymu bod cydberthynas.

O gymharu â chyfartaledd Cymru ac i bobl sy’n byw mewn cymunedau ag asedau cymunedol, mae preswylwyr mewn ardaloedd llai  cydnerth yn llawer mwy tebygol o fod yn ddi-waith, maent yn llai tebygol o feddu ar gymwysterau ac maent yn fwy tebygol o brofi salwch cyfyngus hirdymor.  Mae ganddynt lefelau is o weithgarwch cymunedol hefyd ac maent yn derbyn lefelau is o gyllid gan y wladwriaeth a chyllidwyr elusennol er gwaethaf eu heriau cymdeithasol.  Yn benodol, ceir bylchau amlwg mewn ardaloedd llai cydnerth yn nhermau’r lefelau o gyllid a dderbynnir.  Mae hyn yn debygol o fod yn gysylltiedig â diffyg gweithgarwch y trydydd sector yn yr ardaloedd hyn; gyda llawer llai o sefydliadau’r trydydd sector (325 fesul 100,000 o’r boblogaeth) ac ymddiriedolwyr elusennau (838 fesul 100,000) o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol (459 a 1,366 yn y drefn honno).  O ganlyniad i gyllid cyfyngedig ac ansicr, mae’n anodd i sefydliadau cymunedol a’r trydydd sector lenwi’r bylchau seilwaith mewn ardaloedd llai cydnerth.

Beth nesaf ar gyfer yr Indecs Asedau a’r Indecs Cydnerthedd?

Mae BCT yn gobeithio y bydd y gwaith hwn yn annog safbwynt newydd ar ystyried lle a thlodi yng Nghymru, gan gydnabod bod y gallu i gael mynediad at wasanaethau a chyfleoedd  yn hollbwysig i ragolygon bywyd pobl.  Mae’r ddau indecs yn gwasanaethu fel ffordd o ddeall cydnerthedd a llesiant cymunedol mewn ffordd fwy cyfannol.  Mae angen edrych y tu hwnt i’r mesurau presennol o amddifadedd ac ymgorffori mesurau o seilwaith ac ymgysylltiad cymunedol a all ddwysáu heriau amddifadedd neu eu lliniaru.  Ni ellir anwybyddu’r pwynt hollbwysig hwn wrth gynllunio polisïau yn y dyfodol, sydd wir yn ceisio mynd i’r afael â thlodi ac anfantais ledled y wlad.  Wrth i galedi barhau i wasgu, rydym yn gobeithio y bydd llunwyr polisi a chyllidwyr yn defnyddio’r gwaith ymchwil hwn – yn ogystal â phobl sy’n gweithio mewn cymunedau – i wneud penderfyniadau cadarn ar sail tystiolaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru.