Adnabod a mynd i’r afael â thlodi gwledig yng Nghymru

Wrth feddwl am dlodi yng Nghymru, nid ucheldiroedd Eryri, pentrefi arfordirol yn Sir Benfro, neu dir ffermio bryniog Powys sy’n dod i’r meddwl gyntaf.  Er hynny, mae tystiolaeth gynyddol sy’n dangos bod tlodi yn broblem barhaus a chynyddol i lawer o bobl sy’n byw yng Nghymru wledig.

Mae ymchwilwyr wedi datgan fod Cymru wledig yn dioddef o ‘dlodi cudd’ nad yw mor amlwg â’r amddifadedd dwys a welir mewn ardaloedd mwy trefol.  Defnyddiwyd yr unedau i goladu ystadegau, er enghraifft wardiau ac ardaloedd allbwn y cyfrifiad, ac maent yn cwmpasu ardaloedd mwy, mwy cymysg mewn ardaloedd gwledig, lle mae aelwydydd â lefelau incwm gwahanol yn gymysg.  Mae ystrydebau diwylliannol o gredu bod ardaloedd gwledig yn fwy cefnog yn gyffredinol hefyd yn cuddio presenoldeb tlodi, neu’n esbonio caledi fel dewis ffordd o fyw, gyda mannau gwyrdd a llonyddwch yn gwneud iawn am hynny.  Mae’n bosibl bod preswylwyr gwledig eu hunain yn amharod i ofyn am gymorth, neu eu bod hyd yn oed yn amharod i ystyried eu bod yn profi tlodi, oherwydd cryfder y syniad o hunan-ddibyniaeth wledig a’r ofn o sefyll allan mewn cymuned fach.

Gall tlodi gyflwyno mewn gwahanol ffurfiau mewn ardaloedd gwledig o gymharu â thlodi mewn ardaloedd trefol. Nid yw diweithdra  yn fesur da o dlodi gwledig, yn rhannol oherwydd mae pobl heb waith yn aml yn gadael cymunedau gwledig i ddod o hyd i swyddi ac yn rhannol oherwydd bod cyflogau isel a chyflogaeth ansicr yn golygu bod tlodi mewn gwaith yn fwy cyffredin.  Ni ellir mesur tlodi trafnidiaeth mewn cymunedau gwledig ar sail bod yn berchen ar gar, oherwydd mae dirywiad gwasanaethau bysys wedi golygu bod rhedeg car yn anghenraid i lawer o aelwydydd, hyd yn oed os na allant fforddio gwneud hynny bron.  Mae gan ddibyniaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus gost amser: yn 2019, yr amser teithio i siop fwyd ar gyfartaledd i breswylwyr pentrefi a chefn gwlad agored oedd 9 munud mewn car, ond 1 awr a 29 munud gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. I ysgol gynradd roedd yn 8 munud mewn car, ond 1 awr a 21 munud ar fws.

Mae gallu fforddio tai yn her mewn ardaloedd trefol a gwledig, ond mae prisiau tai nodweddiadol yn ddrutach o gymharu ag enillion lleol canolrifol yn y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig yng Nghymru o gymharu â Chymru gyfan. Hyd yn oed yn Sir Gaerfyrddin, lle mae’r bwlch ar ei leiaf, mae prisiau nodweddiadol y tai rhataf yn parhau i fod fwy na phum gwaith enillion blynyddol y gweithwyr ar yr incwm isaf, sy’n golygu na all pobl fod yn berchen ar eiddo.  Er hynny, mae’r sector rhentu preifat yn gyfyngedig mewn cymunedau gwledig ac yn lleihau wrth i eiddo gael eu trawsnewid yn llety gwyliau proffidiol.  Er enghraifft, cynyddodd y nifer o lety gwyliau eiddo cyfan yng Ngwynedd sydd wedi’u rhestr ar AirBnB 915% rhwng 2017 a 2019. Mae eiddo rhent sy’n parhau i fod ar gael yn dueddol o fod yn ddrutach nac eiddo mewn llawer o ardaloedd trefol ac yn aml mae o safon is.

Mae gan broblemau digartrefedd hefyd gymeriad gwahanol mewn ardaloedd gwledig, gyda llai o gysgu allan a mwy o unigolion a theuluoedd yn aros gyda pherthnasau a ffrindiau, mewn llety dros dro neu annigonol, neu mewn trefi a phentrefi sydd yn bell o’u man preswylio o ddewis.

Dyluniwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru i gydnabod bod gwahanol fathau o dlodi yn cael eu cynrychioli mewn ardaloedd daearyddol gwahanol.  Mae’r parthau ‘Tai’ a ‘Mynediad at Wasanaethau’ yn dangos amddifadedd uwch mewn ardaloedd gwledig, ond o gyfuno’r ffigurau mewn dangosydd cyfansawdd, mae wardiau gwledig yn dueddol o gynrychioli canol y dosbarthiad.  Mae llai na 2% o wardiau sy’n cwmpasu pentrefi, trefi bychain a chefn gwlad mewn siroedd gwledig yn y degradd mwyaf difreintiedig (10%) o’r wardiau ar y mynegai, o gymharu â 15% o wardiau mewn trefi a dinasoedd.

Mae hyn yn methu’r ‘premiwm tlodi gwledig’, lle mae effaith gyd-gysylltiedig cyflogaeth, tai a thrafnidiaeth yn dwysau ei gilydd, yn ogystal â phoblogaeth isel, yn golygu bod costau byw sylfaenol yn uwch i breswylwyr gwledig ar incwm isel o gymharu â phreswylwyr trefol mwy cefnog.  Adroddodd Sefydliad Bevan yn 2022 bod aelwydydd gwledig yn wynebu gwasgfa driphlyg o gostau isel, incwm isel a chefnogaeth gyfyngedig i aelwydydd dan bwysau.  Cyfrifodd fod aelwydydd gwledig yng Nghymru yn gwario £27 yr wythnos ar gyfartaledd ar drafnidiaeth a £4 yr wythnos yn fwy ar fwyd o gymharu ag aelwydydd trefol.  Canfu arolwg a gynhaliwyd ddegawd yn ôl, yn 2013, gan Arsyllfa Wledig Cymru bod un o bob ugain ymatebwr wedi dweud y byddai’n amhosibl canfod £100 i dalu am gost annisgwyl, a dywedodd 18% eu bod yn cael anhawster i ymdopi ar eu hincwm presennol.  Heddiw, byddai’r niferoedd hyn yn uwch, oherwydd mae chwyddiant tanwydd a bwyd wedi taro aelwydydd gwledig yn arbennig o galed, gan gynnwys costau gwresogi ar gyfer eiddo sy’n ddibynnol ar olew, nad ydynt wedi’u cynnwys mewn capiau ar brisiau ynni.

Gall byw mewn ardaloedd gwledig ei gwneud yn anos hefyd i aelwydydd sy’n profi caledi gael mynediad at gymorth.  Mae lledaeniad Banciau Bwyd i gymunedau gwledig yn dystiolaeth o dlodi tanwydd sy’n ehangu, ond clywodd Cyngor Ceredigion yn ddiweddar bod pedair ward, gwledig yn bennaf yn y sir heb adnoddau o’r fath.  Yn groes i’r syniadau o gymunedau gwledig clos, mae rhwydweithiau cymorth wedi’u darnio gan fudo a heriau trafnidiaeth, gyda thros draean y preswylwyr lleol a arolygwyd gan Arsyllfa Wledig Cymru yn 2013 yn dweud nad oedd ganddynt unrhyw deulu yn byw o fewn 10 milltir.

Er hynny, mae gweithredu cymunedol yn bwysig ar gyfer mynd i’r afael â thlodi gwledig. Dangosodd adroddiad cynharach i WCPP a oedd yn adolygu tystiolaeth ryngwladol, bedair egwyddor ar gyfer ymyriadau cymunedol ar dlodi gwledig, gan gynnwys adeiladu ar alluoedd ac asedau lleol; datblygu cynghreiriau cymunedol yn seiliedig ar brofiadau bywyd; cefnogi cymunedau gydag adnoddau a chyfnewid gwybodaeth; a datblygu cydweithrediadau amlsector, gyda rhanddeiliaid amrywiol. Yng Nghymru, mae gweithredu cymunedol wedi’i gefnogi gan Raglen Wledig Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn ogystal â thrwy fentrau ffurfiol ac anffurfiol amrywiol o fannau cynnes i gludiant cymunedol i gyfnewid dillad. Er hynny, mae dibyniaeth camau o’r fath ar wirfoddolwyr a chyllid grant neu roddion wedi creu ansicrwydd i lawer yn sgil y toriadau i gyllid cyhoeddus, diwedd cyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer datblygu cymunedau gwledig a chostau uwch.

Cyflwynodd Paul Milbourne a Helen Coulson, mewn papur ar gyfer y prosiect Dyfodol Gwledig, sy’n cael ei ariannu gan y Loteri, y ddadl bod angen i ymyriadau yn y gymuned gael eu hategu gan sylw i achosion strwythurol tlodi gwledig, gan gynnwys y rhai sy’n ymestyn y tu hwnt i leoedd gwledig, ac i effeithiau’r cyd-destun gwleidyddol-economaidd presennol, yn ogystal â gwneud mwy o waith i archwilio ffactorau lleol a chenedlaethol yng Nghymru sy’n siapio profiadau tlodi gwledig ac effeithlonrwydd ymatebion.

Yn gryno, er bod cydnabod tlodi gwledig yng Nghymru yn gam pwysig ar gyfer gallu mynd i’r afael â’r broblem, mae angen ymateb polisi integredig ac amlsector gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sy’n gweithio gyda sector gwirfoddol sydd â’r adnoddau a’r grym angenrheidiol.