Beth mae datganoli wedi’i gyflawni i Gymru?

Y diwrnod ar ôl dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed, pleidleisiodd Senedd Cymru i gynyddu ei maint o fwy na 50%.  Yn 2026 bydd y cyhoedd yng Nghymru felly’n ethol 96 aelod yn lle’r 60 presennol.  Roedd cefnogwyr y newid hwn yn ei groesawu fel buddsoddiad hanesyddol mewn democratiaeth a oedd yn adlewyrchu’r ffaith bod pwerau deddfu a chodi trethi y Senedd wedi eu cryfhau’n sylweddol ers iddi agor ei drysau am y tro cyntaf ym 1999. Dadl y gwrthwynebwyr oedd y gellid defnyddio’r gost flynyddol a ragwelid o £18 miliwn yn well i leihau amseroedd aros, ysgogi’r economi a hybu addysg. Yn eu barn nhw, dylai’r flaenoriaeth fod ar sicrhau mwy o athrawon, meddygon, deintyddion a nyrsys, yn hytrach na 36 o wleidyddion ychwanegol.

Mae’r dadleuon hyn o blaid ac yn erbyn ehangu’r Senedd yn crisialu rhai o’r safbwyntiau gwrthgyferbyniol am chwarter canrif gyntaf datganoli yng Nghymru.

Gan ofni y byddai’r cyhoedd yng Nghymru yn gwrthod y syniad o ‘Senedd’ yn null yr Alban, cynigiodd penseiri datganoli yng Nghymru ‘Gynulliad Cenedlaethol’ i bobl Cymru. Heb y pwerau sydd ar gael yn yr Alban, i nifer o bobl roedd Cynulliad Cymru yn ymddangos yn debycach i awdurdod lleol na llywodraeth genedlaethol.  Ac eto, dim ond yn sgil mwyafrif bach o 6,721 o bleidleisiau y pasiwyd y fersiwn hwn o ddatganoli sydd wedi’i lastwreiddio. Gan mai dim ond 50% a benderfynodd fwrw pleidlais, fe gychwynnodd Cynulliad Cymru ei daith gyda chefnogaeth benodol 1 o bob 4 o’r boblogaeth sy’n oedolion.

Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae’r darlun yn edrych yn wahanol iawn. Ar ôl dechrau sigledig iawn, mae’r sefydliadau datganoledig yng Nghymru yn raddol wedi ennill cefnogaeth gyhoeddus, wedi cael pwerau newydd ac ysgogwyr polisi, ac wedi llywio’r wlad trwy gyfnod heriol, yn enwedig yr achosion o glefyd y Traed a’r Genau yn 2001 a phandemig Covid-19 ugain mlynedd yn ddiweddarach.  Mae llai nag 1 o bob 5 o etholwyr Cymru bellach yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio ‘yn erbyn’ cael Senedd ac mae 40% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, y genhedlaeth gyntaf i dyfu fyny gyda datganoli, yn ffafrio annibyniaeth lawn.

Felly mae’n hawdd gweld pam fod y rhai sy’n edrych ar ddatganoli fel proses o adeiladu’r wlad yn credu bod y pum mlynedd ar hugain cyntaf wedi bod yn fater o ‘bopeth yn iawn, hyd yma’.  Mae’r Cynulliad Cenedlaethol (y Senedd bellach) wedi dangos ei fod ‘yn gallu cyflawni pethau’. Efallai, yr hyn sydd yr un mor bwysig, yw ei fod hefyd wedi dangos ei fod ‘yn gallu gwneud pethau’n wahanol’. Fel yn yr Alban, gall gwleidyddion Cymru gyfeirio at wahaniaethau polisi amlwg o gymharu â pholisïau Llywodraeth y DU, enghreifftiau o’r hyn a alwodd ail Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn ‘ddŵr coch clir’ rhwng Caerdydd a Llundain. Mae rhai  o’r ‘gwahaniaethau amlwg yng Nghymru’ yn cynnwys cyflwyno tâl ar fagiau plastig untro a chydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau. Mae pobl yng Nghymru yn derbyn presgripsiynau am ddim, gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r Senedd, nid oedd Cymru yn dibynnu ar gytundebau menter cyllid preifat i adeiladu ysbytai ac ysgolion, mae ganddi Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ‘sydd ar y blaen yn fyd-eang’, ac yn ddiweddar cyflwynodd gyfyngiad cyflymder rhagosodedig o 20 mya mewn ardaloedd preswyl.

Ond mae’n mynd yn bellach na chynnwys polisi yn unig. Mae’r dull o lunio polisi hefyd wedi teimlo’n wahanol. Yn ôl dadansoddiad fy nghyd-aelod Richard Wyn Jones, mae Llafur Cymru wedi ennill mwy o seddi a chyfran uwch o’r bleidlais na phleidiau eraill ym mhob Etholiad Cyffredinol ers 1922. Nid yw’n syndod felly ei fod wedi arwain pob Llywodraeth Cymru. Ond, yn brin o fwyafrif cyffredinol yn y Cynulliad/Senedd, bu’n rhaid iddo ddibynnu ar gefnogaeth pleidiau eraill er mwyn llywodraethu. Bu clymbleidiau gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ac yna gyda Plaid ac amrywiaeth o gytundebau ffurfiol ac anffurfiol i basio cyllidebau a sicrhau rhannau allweddol o’r rhaglen lywodraethu.

Mae’r dull cydsyniol hwn wedi ymestyn y tu hwnt i’r Senedd i’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru’n cydweithio â llywodraeth leol a llu o ‘bartneriaid cymdeithasol’.  Bu rhywfaint o anghytuno ar adegau ond yn gyffredinol mae cysylltiadau canolog lleol wedi bod yn llawer mwy cytûn ac adeiladol nag ar draws y ffin, ac mae gweinidogion wedi gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr undebau a rhanddeiliaid eraill i lunio polisi.

Mae gwahaniaeth amlwg hefyd yn ymddygiad gwleidyddiaeth Cymru. O’r cychwyn cyntaf roedd y Cynulliad Cenedlaethol yn nodedig am ei gydbwysedd rhwng y rhywiau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu mwy o sefydlogrwydd gwleidyddol nag yn Llundain hefyd (yn dilyn cyfnod byrhoedlog Alun Michael yn 1999-2000, dim ond tri Phrif Weinidog sydd wedi bod rhwng hydref 2000 a Gwanwyn 2024. Yn ystod yr un cyfnod roedd gan Lywodraeth y DU chwe phrif weinidog). Ac er nad yw’r Senedd wedi bod yn ddi-sgandal, roedd y sylw a gafodd Prif Weinidog Prydain yn mynd i bartïon Stryd Downing yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud yn wahanol iawn i rai Prif Weinidog Cymru oedd yn byw mewn fflat bach ym mhen draw ei ardd i warchod ei wraig a’i fam-yng-nghyfraith rhag y pandemig. Hefyd mae’n werth nodi, yn wahanol i Boris Johnson, fod arweinydd (ar y pryd) y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymddiswyddo bron yn syth ar ôl i’w achos posibl o dorri rheoliadau Covid ddod i’r amlwg.

Yn agos at fy nghalon, nodwedd arbennig arall o lunio polisi ôl-ddatganoli yw’r ymgais benodol i ddefnyddio tystiolaeth i wella penderfyniadau polisi. Yn 1999 roedd yr ‘ecosystem dystiolaeth’ yng Nghymru’n brin iawn. Roedd swyddogion a etifeddwyd gan y Swyddfa Gymreig yn gyfarwydd â diwygio deddfau a basiwyd yn San Steffan yn hytrach na chreu deddfwriaeth newydd, ac ychydig iawn o ffynonellau allanol o syniadau a heriau polisi oedd gan Gymru – dim ond ychydig o felinau trafod bach oedd gan Gymru. Yn y cyfamser, roedd awdurdodau lleol, y trydydd sector, proffesiynau a rhanddeiliaid eraill yn cael eu harwain gan bolisïau a rhaglenni ariannu a wnaed yn Llundain a Brwsel yn hytrach na Bae Caerdydd. Fodd bynnag, mae’r sylfaen dystiolaeth bellach wedi’i thrawsnewid. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru  a sefydlwyd yn 2013, yn gweithio gyda gweinidogion, llywodraeth leol ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill ledled Cymru i ddarparu tystiolaeth hygyrch, awdurdodol ac annibynnol gan ymchwilwyr blaenllaw yn y byd. Dros y degawd diwethaf, mae nifer o fuddsoddiadau eraill gwerth miliynau o bunnoedd mewn polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth wedi ymuno â hi gan gynnwys Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy’n darparu tystiolaeth ymchwil i lunwyr polisi ac ymarferwyr ar heriau iechyd a gofal cymdeithasol; Cymru Wledig, sy’n darparu tystiolaeth i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Cymru wledig a ariennir gan ESRC; a Chydweithredfa Ymchwil ar Faterion Iechyd yn Rhondda Cynon Taf, sy’n cynhyrchu tystiolaeth a data i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Ond a yw polisïau blaengar, dull cynhwysol ac sydd (weithiau) yn seiliedig ar dystiolaeth o lunio polisïau, a gwahanol fath o wleidyddiaeth wedi gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i amseroedd aros, yr economi, y bwlch addysgol?  Yn anffodus, yr ateb yw ‘ddim eto’.

Fel gweddill y DU, mae Cymru wedi cael trafferth codi lefel cynhyrchiant ac wedi methu â lleihau tlodi. Prin fod GDP Cymru o’i gymharu â Lloegr wedi newid ers 1999.  Nid yw amseroedd aros ysbytai yn llai nag mewn rhannau eraill o’r DU, nid yw anghydraddoldebau iechyd wedi lleihau chwaith, ac mae’r bwlch cyrhaeddiad addysgol wedi cynyddu o’i gymharu â gwledydd tebyg.

Rhaid ystyried y diffyg cynnydd hwn o ran yr heriau economaidd a chymdeithasol o bwys wrth asesu datganoli yng Nghymru oherwydd bod yr ymgyrch ‘ie’ yn 1997 wedi dibynnu cymaint ar yr honiad y byddai polisïau a luniwyd yng Nghymru, wedi’u teilwra i gyd-destun economaidd-gymdeithasol unigryw Cymru, yn arwain at economi gryfach a gwell gwasanaethau cyhoeddus.

Mewn gwirionedd, roedd hi wastad am fod yn anodd i ddeddfwrfa newydd gyda phwerau deddfu a chodi refeniw cyfyngedig a dim rheolaeth dros bolisi macro-economaidd na’r system fudd-daliadau. Ac nid yw llymder a’r pandemig wedi helpu’r sefyllfa, dau ffactor sydd wedi taro Cymru’n galed oherwydd bod ei phoblogaeth yn hŷn, lefelau uwch o amddifadedd a salwch tymor hir na chyfartaledd y DU. Ond er bod hyn yn helpu i egluro’r diffyg cynnydd hyd yn hyn, ni fydd yn rheswm derbyniol ymhen pum mlynedd ar hugain.

Mae Cymru wedi dangos bod sefydliadau datganoledig gwan, gydag ychydig iawn o bwerau a dim ond cefnogaeth gyhoeddus gymharol, yn gallu tyfu mewn statws a dylanwad dros amser. Ac efallai y gall Awdurdodau Cyfun a strwythurau datganoledig eraill yn Lloegr gael eu hannog gan hyn. Ond wrth symud ymlaen, y prawf go iawn yw p’un ai a fydd y set fwy aeddfed hon o sefydliadau, gan gynnwys Senedd fwy, yn gallu datblygu a chyflwyno polisïau i fynd i’r afael â’r heriau economaidd a chymdeithasol sylweddol. Os na all wneud hynny, mae’n debyg y bydd y cyhoedd yn cwestiynu a oedd angen mwy o wleidyddion arnom. Ond os gallant wneud gwahaniaeth o ran rhai o’r prif faterion hyn, bydd gan lunwyr polisi yng Nghymru rywbeth o gryn bwys i’w ddathlu erbyn i’r Senedd droi’n hanner cant.

Mae’r blog hwn rhan o gyfres IPPO ar sut mae cynllunio polisïau wedi cael ei ddylunio can datganoli ers 1999.