Trefnu Cymunedol Cymru – Arweinwyr Ifanc: Taith ein Hymgyrch

Trefnu Cymunedol Cymru – Arweinwyr Ifanc: Taith ein Hymgyrch

Yn y blog gwadd hwn, mae Arweinwyr Ifanc (Trefnu Cymunedol Cymru) o Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff yn Wrecsam yn siarad am eu hymgyrch i gael gwared ar blant yn llwgu yn yr ysgol, a’u profiadau o fynd i weithdy rhanddeiliaid Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar fynd i’r afael â stigma tlodi.

Ychydig dros flwyddyn yn ôl, fel rhan o Trefnu Cymunedol Cymru (TCC), fe wnaethom ni – grŵp o blant 12-14 oed – ddechrau ymgyrch yn ein hysgol, sef Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff yn Wrecsam, i fynd i’r afael â’r broblem o blant yn llwgu yn yr ysgol. Gwnaethom anfon arolwg o amgylch yr ysgol a chanfod y canlynol:

  • Mae 30% o bobl ifanc wedi dweud bod eu hysgol wedi gwrthod rhoi pryd o fwyd iddynt oherwydd bod dyled ar eu cyfrif
  • Mae 30% o bobl ifanc wedi gorfod mynd heb bryd o fwyd yn yr ysgol oherwydd diffyg arian

Cawsom ein synnu’n arbennig o glywed bod 73% o’r bobl ifanc y gwrthodwyd rhoi pryd o fwyd iddynt wedi cael gwybod o flaen eu cyfoedion bod eu cyfrif mewn dyled. Mae cael gwybod nad oes ganddynt arian yn eu cyfrif, a hynny yn uchel o flaen eu cyfoedion mewn lle swnllyd a phrysur, yn ychwanegu cywilydd diangen a theimladau o ddiymadferthedd at brofiad sydd eisoes yn llawn straen. Mae gweld disgyblion yn gadael y llinell ginio ar ôl cael eu gwrthod, gan wybod eu bod yn llwglyd, yn ein hysgogi i ddal ati.

Ers yr arolwg gwreiddiol hwnnw, rydym wedi cwrdd â’n Pennaeth, Mr Wilkinson, amryw o wleidyddion lleol, gan gynnwys Aelodau’r Senedd dros Wrecsam a De Clwyd, Lesley Griffiths a Ken Skates, a Chomisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes. Bu nifer o’n cyfarfodydd yn llwyddiannus a chawsom wybodaeth hanfodol i’n hachos gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Cawsom gefnogaeth Ken Skates AS i’n hymgyrch hefyd.

Mae ein Pennaeth, Mr Wilkinson, wedi gweithio’n galed i sicrhau bod yr ysgol yn gwneud iawn am y mater a godwyd gennym ynghylch staff y ffreutur yn gwrthod bwyd i ddisgyblion, a bod y disgyblion yn cael cynnig brechdan neu bryd o fwyd yn unol â pholisi’r cyngor, a hynny heb dynnu sylw atynt. Mae Mr Wilkinson yn cadw llygad ar y ffreutur gymaint ag y gall ac yn ceisio gwneud yn siŵr bod ei holl ddisgyblion yn gwybod y gallant ddod at y staff am gymorth.

Lansiodd TCC a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) gyfarfod cyntaf y Gweithgor Cyfiawnder Ariannol ym mis Mehefin 2023. Roedd nifer o sefydliadau lleol fel Banc Bwyd Wrecsam yn bresennol yn y cyfarfod a gynhaliwyd yn ystafell gymunedol Clwb Pêl-droed Wrecsam, sydd yn rhan o’r stadiwm ryngwladol hynaf yn y byd, sef Stadiwm Cae Ras.  I ni fel aelod o grŵp ieuenctid TCC, roedd hwn yn uchafbwynt arall gan ei fod yn rhoi cyfle i ni weithio gyda sefydliadau eraill ar ein mater a chlywed am y problemau ariannol ehangach sy’n effeithio ar ein grwpiau amrywiol o aelodau.

Roedd ein fideo Ymgyrch #DimDysgwyrLlwglyd #NoHungryLearners yn agor Uwchgynhadledd Tlodi Plant Cymru yn Abertawe y llynedd. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Swyddfa’r Comisiynydd Plant a Phlant yng Nghymru. Daeth cynrychiolwyr o gyrff anllywodraethol a chyrff cyhoeddus ledled Cymru i’r Uwchgynhadledd a chynhaliwyd gweithdai ar bynciau amrywiol yn ymwneud â’r fframwaith cyfreithiol a pholisi ar dlodi plant, a’r gwahanol brofiadau o dlodi plant.

Rydym wedi ennill cefnogaeth Cangen Gymunedol Unite the Union Cymru (Gogledd-ddwyrain Cymru) sydd wedi cytuno i ariannu taflenni sy’n lledaenu ymwybyddiaeth o’r ymgyrch.

Buom hefyd yn cymryd rhan yng Ngweithdy Stigma Tlodi Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys cymysgedd o sefydliadau a phobl â phrofiad bywyd a phrofiad dysgedig yn gweithio gyda’i gilydd i drafod stigma tlodi mewn cymdeithas. Ni oedd yr unig grŵp ieuenctid yno ac roeddem yn teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi a’n cynnwys. Cawsom gyfle i gwrdd â phobl o sefydliadau na fydden ni fel arfer yn cael y cyfle i gwrdd â nhw, ac fe wnaeth y profiad ein helpu ni i ddeall ein cymuned yn well.

Roeddem hefyd yn gallu rhannu ychydig o wybodaeth am sut y gall ysgolion greu neu ychwanegu at deimladau o stigma ynghylch tlodi, boed hynny’n anfwriadol. Er enghraifft, y pwysau ariannol ychwanegol ar ddisgyblion a theuluoedd am bethau fel prynu gwisg ysgol wedi’i brandio a dillad Addysg Gorfforol; y pwysau o gael y dillad iawn i gyd-fynd â ffasiwn ar gyfer diwrnodau heb wisg ysgol; a gofyn am gyfrannu at achos o flaen eich cyfoedion. Mae teithiau ysgol lle dywedir wrthym ‘os ydych am godi’ch marc, dylech ddod ar y daith’ yn gallu creu mwy o faich ariannol a rhoi straen ar les disgyblion gan eu bod yn poeni am allu eu teuluoedd i fforddio’r trip a bod dan anfantais addysgol.

Bu adegau pan oeddem ni, pobl ifanc, yn cael ein herio a’n siomi am godi ein lleisiau. Yn TCC rydym yn cael ein haddysgu am ddeinameg pŵer a sut i osod ffiniau a diogelu ein hunain. Roeddem yn gallu rhoi ein hyfforddiant ar waith yn ystod un cyfarfod lle’r oedd penderfynwr yn ceisio rheoli’r agenda. Rydym wedi cael rhai cyfarfodydd mwy heriol gyda deiliaid pŵer. Un enghraifft yw deiliad y pŵer ddim yn deall yr hyn yr oeddem yn gofyn amdano ac yn awgrymu y gallem godi arian i dalu dyledion cinio ein hysgol yn hytrach nag ymgyrchu dros newid polisi.

Mae ein hymgyrch Dim Dysgwyr Llwglyd yn dal i fynd rhagddi; fodd bynnag, rydym yn teimlo bod ennill cefnogaeth amrywiol wleidyddion a mudiadau yn Wrecsam wedi bod yn fuddugoliaeth aruthrol. Ein nod yw dileu dyled cinio ysgol yn gyfan gwbl o bob ysgol uwchradd yng Nghymru.

 

Os hoffech chi ein cefnogi yn ein hymgyrch i gael gwared ar blant yn llwgu yn yr ysgol, gallwch gysylltu â Ruth Marshall drwy anfon e-bost i  yaco@tcc-wales.org.uk

Darllenwch am yr ymgyrch yma  Ymgyrch Dim Dysgwyr Llwglyd (tcc-wales.org.uk)

Fideos yr Ymgyrch: Dim Dysgwyr Llwglyd

Tagiau