Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi – Sesiwn Ddylunio

Lleoliad Ar-lein
Tocynnau Bwciwch yma
Dyddiad 6 Mehefin 2024

Ers 2023, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), fel rhan o’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO), wedi bod yn gweithio i weld sut y gall gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt ddefnyddio tystiolaeth ac arbenigedd i atal a chynnig atebion mwy effeithiol i stigma tlodi.

Rydym nawr yn awyddus i sefydlu Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi er mwyn parhau i ddod â phobl at ei gilydd o bob rhan o Gymru a rhannau eraill o’r DU sydd â diddordeb ac arbenigedd mewn defnyddio tystiolaeth a dealltwriaeth i fynd i’r afael â stigma tlodi.

I’n helpu i ddylunio a sefydlu’r rhwydwaith, hoffem eich gwahodd i sesiwn sefydlu gychwynnol ar ddydd Iau 6 Mehefin rhwng 10yb-12yp ar Zoom. Bydd y sesiwn i bobl sydd â diddordeb mewn helpu i gyfrannu at ddyluniad y rhwydwaith, sut y gallai weithio a beth allai ac y dylai geisio ei gyflawni.

Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un gyda diddordeb ac arbenigedd mewn cynnig atebion i stigma tlodi, naill ai’n ymarferydd, academydd neu’n arbenigwr profiad byw, neu’n wneuthurwr penderfyniadau lleol neu genedlaethol.

Yn y sesiwn gychwynnol hon, byddwn yn treulio amser yn dod i adnabod ein gilydd a’n gwahanol ddiddordebau ac arbenigedd mewn datrys stigma tlodi, cyn trafod a rhannu syniadau am sut allai’r rhwydwaith gael ei redeg a’i strwythuro, ei amcanion a’i ffyrdd o weithio, a beth fydd ei waith.

Mae croeso i unrhyw un ymuno â ni am y sesiwn gychwynnol yn unig – nid oes raid i neb ymuno â’r rhwydwaith unwaith y bydd wedi’i sefydlu. Os na allwch ymuno â’r sesiwn gychwynnol ond hoffech i ni eich diweddaru, rhowch wybod i ni.

Mae’r sessiwn hwn bellach yn llawn. Os hoffech chi cael eich ychwanegu ar y rhestr aros, wnewch anfon ebost i info@wcpp.org.uk”