Abdool Kara

Teitl swydd Cyfarwyddwr Gweithredol, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol

Mae Abdool yn Gyfarwyddwr Gweithredol yn y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, gan arwain holl waith y Swyddfa Archwilio Genedlaethol sy’n ymwneud ag iechyd, addysg, llywodraeth leol a’r Swyddfa Gartref, rôl y mae wedi’i chyflawni er mis Chwefror 2017.

Cyn hyn, bu’n Brif Weithredwr ar Gyngor Bwrdeistref Swale am saith mlynedd a chyn hynny treuliodd bedair blynedd fel Prif Weithredwr Cynorthwyol ym Mwrdeistref Merton, Llundain.  Mae Abdool hefyd wedi gweithio i’r Comisiwn Archwilio mewn gwahanol rolau, gan gynnwys Rheolwr Gweithrediadau’r Arolygiaeth Tai a Phennaeth Polisi’r Asesiad Perfformiad Cynhwysfawr.  Treuliodd flwyddyn hefyd fel cynghorydd arbennig i Swyddfa’r Cabinet.  Cyn hynny, bu’n gweithio am ddeng mlynedd mewn llywodraeth leol yn Llundain, ym Mwrdeistref Ealing, gan arbenigo mewn strategaeth digartrefedd a thai, ac yng Nghorfforaeth Dinas Llundain, lle bu’n arwain ar reoli perfformiad.

Mae gan Abdool BSc mewn Economi Wleidyddol o Goleg y Brifysgol, Llundain; MSc mewn Astudiaethau Datblygu o Brifysgol Caerfaddon; ac MSc mewn Tai o Ysgol Economeg Llundain.

Mae hefyd yn aelod anweithredol o Fwrdd Cymdeithas Tai Gorllewin Caint.

Tagiau