Tu hwnt i gontractio: stiwardiaeth gwasanaethau cyhoeddus i uchafu gwerth cyhoeddus

Yn y blog hwn, mae John Tizard, cyd-awdur ein hadroddiad diweddaraf, Tu hwnt i gontractio: stiwardiaeth gwasanaethau cyhoeddus i uchafu gwerth cyhoeddusyn cyflwyno rhai materion a dadleuon allweddol. Mae hyn yn rhan o’n cyfres ar gaffael cyhoeddus – rhagor o wybodaeth yma.

Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario dros £6bn y flwyddyn ar gaffael gwasanaethau, gwaith a nwyddau. Nid oes unrhyw un yn gwybod sut y dadansoddir hyn o ran categori gwariant eang (gwasanaethau, gwaith a nwyddau), faint sy’n cael ei wario ar gyflenwyr yng Nghymru neu y tu hwnt iddi, faint sy’n cael ei wario ar y gymuned wirfoddol, menter gymdeithasol neu sectorau corfforaethol.

Nid yw’r diffyg hwn o ran data a gwybodaeth sylfaenol yn unigryw i Gymru. Mae hefyd yn berthnasol i Loegr, er bod gwerth y gwariant lawer yn uwch yn nhermau absoliwt ac fel cyfran o gyfanswm gwariant cyhoeddus. Yn draddodiadol, mae Cymru wedi allanoli a chontractio cymaint yn llai o wasanaethau cyhoeddus na Lloegr.  Serch hynny, mae rhai gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu contractio yng Nghymru.

Byddai o fudd i’r cyhoedd wybod mwy am yr hyn sy’n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus dan gontract, pa wasanaethau sy’n rhan o hyn, sut maen nhw’n perfformio a phwy yw’r contractwyr.  Fel y dangosodd cwymp Carillion y llynedd, gall y llywodraeth a’r sector cyhoeddus yn ehangach fod yn agored i’r posibilrwydd o gontractwyr mawr yn methu, ac yn arbennig y rhai hynny sydd â chyfran sylweddol o’r farchnad.

Yn yr adroddiad Tu hwnt i gontractio: stiwardiaeth gwasanaethau cyhoeddus i uchafu gwerth cyhoeddus ar gyfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, mae Megan Mathias a minnau wedi edrych ar y dirwedd contractio yng Nghymru, gan ei chymharu â chyd-destun y DU, a chanolbwyntio ar y gwasanaethau cyhoeddus yn hytrach na chontractau am nwyddau neu waith, megis prosiectau adeiladu. Rydym wedi cynnig mesurau y gallai Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y GIG, y gwasanaeth heddlu a chyrff cyhoeddus eraill eu defnyddio i reoli risgiau, uchafu gwerth cyhoeddus a sicrhau atebolrwydd yn well.

Yn yr adroddiad, rydym wedi cyflwyno’r achos dros sefydlu ‘Llyfr Dydd y Farn’ i gofnodi data a gwybodaeth am bob contract sylweddol sy’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru – ac yn ddelfrydol, caiff y ‘Llyfr Dydd y Farn’ hwn ei gysylltu ag un tebyg yn Lloegr. Gall y Llywodraeth barchu ffiniau cenedlaethol, ond mae contractwyr yn gweithio ar eu traws ac felly dylid cysylltu’r data a’r dadansoddiadau â Lloegr. Rwyf wedi cyd-ysgrifennu adroddiad ar gyfer Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) am yr achos dros Lyfr Dydd y Farn o’r fath a sut y gellir ei ddefnyddio.

Rydym hefyd yn dadlau dros stiwardio gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach yn wleidyddol, ac i’r stiwardiaeth hon ganolbwyntio ar uchafu gwerth cyhoeddus a budd y cyhoedd. Mae angen i benderfyniadau am natur y gwasanaethau cyhoeddus a’r gwariant arnynt gynnwys gwerth am arian yn ogystal â ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach.  Mae’n rhaid i’r gwaith o stiwardio gwasanaethau cyhoeddus fynd i’r afael â chynaliadwyedd gwasanaethau, eu hallbynnau a’u canlyniadau, eu heffeithiolrwydd, eu heffeithlonrwydd, eu hecwiti ac ansawdd y gyflogaeth ar gyfer y rhai hynny sy’n darparu’r gwasanaethau. Dylid hefyd roi ystyriaeth bellach i’r allanoldebau y mae gwasanaethau cyhoeddus yn eu creu a’r ffordd y cânt eu darparu. Er enghraifft, os caiff gwasanaethau eu hallanoli a bod hyn yn golygu llai o swyddi neu swyddi’n cael eu hallforio i fannau eraill, neu cyflogai is a/neu amodau neu delerau gwannach ar gyfer y gweithlu – mae’n anochel y bydd goblygiadau cynyddol ar economïau lleol, yr Adran Gwaith a Phensiynau, y GIG a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus. Rydym yn dadlau y dylai pob corff yn y sector cyhoeddus asesu’r effaith gyfannol yn ogystal ag edrych ar yr hirdymor wrth ystyried allanoli unrhyw wasanaethau.

Yn yr adroddiad hwn rydym yn cyflwyno’r achos dros sefydlu fframwaith polisi cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, yn ogystal â diffinio pa wasanaethau y gellir ystyried eu hallanoli, a’r rhai na ddylid eu hallanoli. Ceir achos cryf dros sicrhau mai’r rhagosodiad yw darparu gwasanaethau cyhoeddus yn fewnol, a’i wneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyfiawnhau a phrofi bod peidio â rheoli’r gwasanaethau yn fewnol o fudd i’r cyhoedd.

Dyma ddewisiadau gwleidyddol, a thrwy stiwardio gwasanaethau cyhoeddus, dylai cyrff gwleidyddol ar lefel genedlaethol a lleol fabwysiadau meini prawf “cynhyrchwch neu prynwch” i lywio safbwyntiau am fodelau cyflenwi.

Os yw cyrff cyhoeddus yn penderfynu eu bod nhw’n dymuno allanoli, yna dylai fod yn ofynnol iddynt ymgynghori â rhanddeiliaid; nodi eu hamcanion fel bod modd eu dwyn i gyfrif am berfformiad ar ôl i gontractau gael eu cyflwyno; bod yn dryloyw a sicrhau bod eu contractwyr yn dryloyw hefyd; a mabwysiadau polisïau caffael a thelerau contract sy’n sicrhau bod y contract a’r contractwr yn gweithredu er lles y cyhoedd. Mae’n rhaid iddynt hefyd sicrhau bod ganddynt y gallu proffesiynol a’r crebwyll masnachol i fod yn gleientiaid effeithiol – oherwydd y gwirionedd yw bod dulliau gwael o gaffael a rheoli contractau yn arwain at fethiannau o ran allanoli. Yn olaf, dylent fabwysiadau polisïau ac arferion sy’n gymesur â’r risgiau posibl a maint a chymhlethdod y gwasanaethau.

Mae Cymru’n le gwell na Lloegr i ddatblygu dull mwy soffistigedig o drin gwasanaethau cyhoeddus, sy’n mynd y tu hwnt i gontractio ac allanoli, ac sy’n nodi mai’r rhagosodiad yw darparu’n fewnol. Dylid ymgorffori’r dull hwn yn y gwaith o stiwardio gwasanaethau cyhoeddus yn wleidyddol, a chael amcan eglur i uchafu gwerth cyhoeddus.