Gwell atal na gwella digartrefedd ymhlith pobl ifanc, medd adroddiad newydd

Mae dileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn dibynnu ar gynorthwyo pobl ifanc sydd mewn perygl drwy ysgolion, ysbytai, gwasanaethau gofal a system gyfiawnder troseddol Cymru, yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Gan ymateb i alwad y Prif Weinidog i ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru o fewn degawd, mae’r Ganolfan wedi gweithio gydag arbenigwyr mewn digartrefedd o Brifysgol York yng Nghanada i ddadansoddi beth y gall llywodraethau ei wneud i ymdrin â’r mater.

Mae’r adroddiad yn canfod bod ymyriadau cynnar sy’n atal pobl ifanc rhag bod yn ddigartref cyn iddo ddigwydd yn allweddol i ddileu digartrefedd pobl ifanc.

Mae’n argymell:

  • Gweithio ar draws y Llywodraeth i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddigartrefedd;
  • Creu cymorth parhaus i bobl ifanc sy’n gadael gofal, rhai o’r bobl sy’n fwyaf tebygol o fod yn ddigartref, tan eu bod yn 25 oed;
  • Sicrhau bod pobl ifanc sy’n cael eu rhyddhau o’r system gyfiawnder troseddol yn cael cymorth i gynllunio eu camau nesaf ac y gallant fanteisio ar amrywiaeth o opsiynau cartrefu.

Dywedodd Dr Jonathan Webb, Swyddog Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru:
“Bydd unrhyw un sy’n gweld y cynnydd yn y nifer o bobl ifanc sy’n cysgu allan yn nhrefi a dinasoedd Cymru am wybod beth y gellir ei wneud i’w helpu.

“Yr hyn mae’n hadroddiad newydd yn ei ddangos yw mai atal pobl rhag bod heb gartref yn y lle cyntaf yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc.

“Mae angen i bobl ar draws Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol a gwasanaethau cyhoeddus weithio gyda’i gilydd, gan sicrhau bod rhwydi diogelwch yn cael eu sefydlu i atal pobl ifanc rhag syrthio drwy’r bylchau rhwng y gwasanaethau cymorth presennol.”

Gellir darllen yr adroddiad llawn drwy bwyso yma.