Ynghylch

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gweithio i fynd i'r afael â heriau economaidd a chymdeithasol allweddol drwy ddefnyddio tystiolaeth.

Mae’r Ganolfan, a gaiff ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru, wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n aelod o Rwydwaith What Works y DU.

Mae’r Ganolfan yn cydweithio ag arbenigwyr polisi blaenllaw er mwyn rhoi tystiolaeth o ansawdd uchel a chyngor annibynnol i weinidogion, y gwasanaeth sifil a gwasanaethau cyhoeddus sy’n eu helpu i wella penderfyniadau a chanlyniadau sy’n gysylltiedig â pholisi.

Mae’r Ganolfan hefyd yn gwneud ymchwil i wella dealltwriaeth o’r rôl y gall tystiolaeth ei chwarae wrth helpu i lunio polisïau gwell a darparu gwasanaethau cyhoeddus.